Rent (sioe gerdd)

Oddi ar Wicipedia
Rent
200
Poster y sioe wreiddiol
Cerddoriaeth Jonathan Larson
Geiriau Jonathan Larson
Llyfr Jonathan Larson
Seiliedig ar Yn seiliedig ar opera Giacomo Puccini La bohème
Cynhyrchiad 1993 Gweithdy a darlleniad
1994 Oddi-ar Broadway
1996 Broadway
1996 Taith Genedlaethol UDA
1998 WEst End
1998 Awstralia
2001 Taith y DU
2003 Adfywiad yn West End Llundain
2005 Ffilm
2006 Rent 10
2007 Adfywiad yn West End Llundain
2009 Taith Genedlaethol UDA
2009 Cyngerdd yn y West End
Gwobrau Gwobr Pulitzer am Ddrama
Gwobr Tony am y Sioe Gerdd Orau
Gwobr Tony am y Llyfr Gorau
Gwobr Tony am y Sgôr Orau
Sioe Gerdd Eithriadol Drama Desk
Llyfr Eithriadol Drama Desk

Mae Rent yn sioe gerdd sy'n seiliedig ar opera Giacomo Puccini, La Bohème. Ysgrifennwyd y geiriau a'r gerddoriaeth gan Jonathan Larson. Adrodda hanes grŵp o artistiaid a cherddorion tlawd sy'n brwydro i oroesi a chreu yn Ochr Ddwyreiniol Isaf Efrog Newydd yn ystod cyfnod bohemaidd y ddinas. Mae'r afiechyd AIDS yn gefnlen i'r sioe.

Gwelwyd y sioe gerdd am y tro cyntaf mewn gweithdy tair wythnos yng Gweithdy Theatr Efrog Newydd ym 1994. Pan agorodd y sioe yn swyddogol ar 25 Ionawr 1996, defnyddiwyd yr un theatr sydd oddi-ar prif ardal Broadway. Bu farw crëwr y sioe, Jonathan Larson, yn sydyn iawn y noson cyn y noson agoriadol. Enillodd y sioe Wobr Pulitzer ac roedd y cynhyrchiad yn llwyddiant. Yn ddiweddarach, symudwyd y sioe i theatr mwy o faint sef y Theatr Nederlander ar Broadway ar 29 Ebrill 1996.

Ar Broadway, derbyniodd Rent feirniadaethau canmoladwy, gan ennill Wobr Tony am y Sioe Gerdd Orau ymysg gwobrau eraill. Daeth y sioe gerdd hon a chast gydag amrywiaeth o gefndiroedd ethnig a phynciau dadleuol i fyd y sioe gerdd a oedd yn draddodiadol geidwadol, ac arweiniodd hyn yn ei dro i gynyddu poblogrwydd theatr cerdd ymysg y genhedlaeth iau. Daeth y cynhyrchiad ar Broadway i ben ar 7 Medi 2008 ar ôl cyfnod o 12 mlynedd, a 5,124 o berfformiadau gan wneud y sioe y seithfed sioe i gael ei pherfformio am y cyfnod hiraf ar Broadway, chwe mlynedd ar ôl The Phantom of the Opera. Gwnaeth y sioe rent dros $280 miliwn.

Yn sgîl llwyddiant y sioe, cafwyd nifer o deithiau cenedlaethol a chynhyrchiadau rhyngwladol, ac yn 2005 cafodd ei addasu'n ffilm sy'n serennu y rhan fwyaf o'r cast gwreiddiol.

Caneuon[golygu | golygu cod]

Act 1
  • Tune Up #1 — Mark a Roger
  • Voice Mail #1 — Mam Mark
  • Tune Up #2 — Mark, Roger, Collins, a Benny
  • Rent — Cwmni
  • You Okay Honey? — Angel, Collins, a Dyn ar Stryd
  • Tune Up #3 — Mark a Roger
  • One Song Glory — Roger
  • Light My Candle — Mimi a Roger
  • Voice Mail #2 — Mr. a Mrs. Jefferson
  • Today 4 U — Collins, Roger, Mark, ad Angel
  • You'll See — Benny, Mark, Roger, Collins, a Angel
  • Tango: Maureen — Joanne ad Mark
  • Life Support — Cwmni
  • Out Tonight — Mimi
  • Another Day — Mimi, Roger, a Company
  • Will I? — Cwmni
  • On the Street — Cwmni
  • Santa Fe — Collins, Angel, a Mark
  • I'll Cover You — Angel a Collins
  • We're Okay — Joanne
  • Christmas Bells — Cwmni
  • Over the Moon — Maureen
  • La Vie Bohème — Cwmni
  • I Should Tell You — Mimi a Roger
  • La Vie Bohème B — Cwmni
Act 2
  • Seasons of Love — Cwmni
  • Happy New Year — Mark, Roger, Mimi, Collins, Angel, Maureen, a Joanne
  • Voice Mail #3 — Mam Mark a Alexi Darling
  • Happy New Year B — Mark, Roger, Mimi, Collins, Angel, Maureen, Joanne, a Benny
  • Take Me or Leave Me — Maureen a Joanne
  • Seasons of Love B — Cwmni
  • Without You — Roger a Mimi
  • Voice Mail #4 — Alexi Darling
  • Contact — Cwmni
  • I'll Cover You (Reprise) — Collins a Cwmni
  • Halloween — Mark
  • Goodbye Love — Mark, Roger, Mimi, Collins, Maureen, Joanne, a Benny
  • What You Own — Roger a Mark
  • Voice Mail #5 — Mam Roger, Mam Mimi, Mr. Jefferson, a Mam Mark
  • Finale — Cwmni
  • Your Eyes — Roger
  • Finale B — Cwmni

Cymeriadau[golygu | golygu cod]

Cymeriad yn La bohème Cymeriad yn Rent (sioe gerdd)
Mimi, gwnïadurwraig gyda'r diciàu Mimi Márquez, dawnswraig egsotig gyda HIV
Rodolfo, bardd Roger Davis, cyfansoddwr sy'n HIV
Marcello, peintiwr Mark Cohen, gwneuthurwyr ffilmiau
Musetta, canwr Maureen Johnson, artist berfformio cyfunrywiol
Schaunard, cerddor Angel Dumott Schunard, perfformiwr drag hoyw sydd ag AIDS
Colline, athronydd Tom Collins, athro athronyddiaeth hoyw ac anarchydd gydag AIDS
Alcindoro, cynghorydd taleithiol Joanne Jefferson, cyfreithwraig, sydd hefyd yn lesbiad (Hefyd yn rhannol seiliedig ar Marcello)
Benoit, landlord Benjamin 'Benny' Coffin III, y landlord lleol a chyn-rannwr ystafell gyda Roger, Mark, Collins, a Maureen

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]