Reginald Brooks-King

Oddi ar Wicipedia
Reginald Brooks-King
Ganwyd27 Awst 1861 Edit this on Wikidata
Trefynwy Edit this on Wikidata
Bu farw19 Medi 1938 Edit this on Wikidata
Honiton Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethsaethydd, cricedwr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Roedd Reginald Brooks-King (27 Awst 1861 - 19 Medi 1938) yn saethydd Cymreig. Bu hefyd yn chware Criced i dîm Gwlad yr Haf, ac fe ddyfeisiodd un o'r peiriannau bowlio cynharaf.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed yn Nhrefynwy yn fab i'r Cyrnol James Pearce King, o The Elms, Trefynwy. Ym 1892 priododd Jessie, pedwaredd ferch yr Is-gapten Richard Bagnall, o Severn Stoke, Swydd Gaerwrangon [2]

Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Malvern,[3] lle fu'n aelod o dimau criced a phêl droed yr ysgol. Wedi ymadael a'r ysgol fu'n astudio peirianneg a gwyddorau cymhwysol yng Ngholeg y Brenin Llundain. Wedi graddio bu'n gweithio fel peiriannydd rheilffordd.[1]

Saethydd[golygu | golygu cod]

Bu'n Bencampwr Saethyddiaeth Prydain rhwng 1901 and 1903 ac yn ysgrifennydd cymdeithas saethyddiaeth Prydain ym 1904. .[1]

Enillodd y fedal arian yng nghystadleuaeth ddwbl York yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1908.[4] Saethodd Brooks-King 393 yn rownd gyntaf y gystadleuaeth, a gynhaliwyd yn Llundain. Rhoddodd hyn ef yn yr ail safle, 10 pwynt tu ôl i'r arweinydd William Dod, hanner ffordd drwy'r gystadleuaeth. Ar yr ail ddiwrnod o saethu, llwyddodd Brooks-King i daro 375 i gymryd y pedwerydd lle ar y diwrnod ond yn ail ar y cyfan gyda 768 o bwyntiau, ymhell y tu ôl i Dod ond 8 pwynt o flaen Henry B. Richardson yn drydydd safle.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Welsh-archer Reginald Brooks-King adalwyd 1 Rhagfyr 2018
  2. "Socialand and Personal - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1892-12-20. Cyrchwyd 2018-12-01.
  3. The Malvern Register adalwyd 1 Rhagfyr 2018
  4. Stori Sydyn: Cymry yn y Gêmau Olympaidd; John Meurig Edwards; Gwasg y Lolfa. ISBN 9781847714107

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

  • Cook, Theodore Andrea (1908). The Fourth Olympiad, Being the Official Report. London: British Olympic Association.
  • De Wael, Herman (2001). "Archery 1908". Herman's Full Olympians. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-09-29. Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2018.