ROM

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Math o ROM a elwir yn EPROM (Erasable programmable read-only memory)

Mae cof darllen-yn-unig neu Read-Only Memory (ROM) yn fath o gof a ddefnyddir mewn cyfrifiaduron a dyfeisiau electronig eraill. Dim ond yn araf y gellir newid y data a storir yn ROM, a hynny gyda chryn anhawster neu ddim o gwbl, felly fe'i defnyddir yn bennaf i storio cadarnwedd (firmware) sef meddalwedd sydd wedi'i chysylltu'n agos â chaledwedd penodol, ac yn annhebygol o fod angen ei diweddaru'n rheolaidd. Yn y 2010au disodlwyd y cof ROM gan fflachgof (flash memory), sy'n caniatau diweddaru achlysurol. Fel arfer cedwir y bios yn y ROM.

Storio rhaglenni ar y ROM[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae ROM a fflachgof yn gyffredin mewn systemau wedi'i mewnblannu[1] (embedded systems) mewn dyfeisiau electronig. Fe'i ceir ym mhopeth o robotiaid diwydiannol i offer cartref, electronig megis y chwaraewyr MP3, blychau set-top, ac ati) oll wedi'u cynllunio ar gyfer swyddogaethau penodol, ond maent wedi'u seilio ar ficrobroseswyr pwrpas cyffredinol. Anaml iawn y bydd angen newid y rhaglenni mewn dyfeisiau ymylol o'r fath, nad ydynt, fel arfer, yn cynnwys disgiau caled oherwydd y gost, eu maint neu'r angen am bŵer trydan ychwanegol. O 2008 roedd y rhan fwyaf o ddyfeisiadau newydd a werthwyd yn defnyddio fflachgof yn hytrach na ROM, ac mae llawer yn darparu'r gallu i gysylltu'r ddyfais â chyfrifiadur personol er mwyn diweddaru'r cadarnwedd; er enghraifft, gellid diweddaru chwaraewr sain digidol i gefnogi fformat-ffeil newydd.

Yng nghyfrifiaduron y 2010au, gosodwyd y cadarnwedd bootstrapping o fewn y ROM neu'r fflach, er mwyn i'r prif brosesydd a chadarnwedd eraill gysylltu a rheoli dyfeisiadau megis y cerdyn graffig, y disg caled, y gyrrwr DVD, yr allweddell, y sgrin gyffwrdd / TFT ayb.

Roedd y mwyafrif o gyfrifiaduron cartref o'r 1980au yn storio eu system weithredu (OS) o fewn y ROM gan fod mathau eraill o storio (e.e. y gyrrwr disg magnetig) yn rhy gostus. Er enghraifft, roedd y Commodore 64 yn cynnwys 64 KB o RAM a 20 KB o ROM yn cynnwys interpreter BASIC a "KERNAL" ei system weithredu. Ar gychwyn y 1980au llwythwyd yr OS i'r ROM ar gyfrifiaduron y BBC Basic, sef y cyfrifiaduron cyntaf i gyrraedd ysgolion Cymru. Oherwydd hyn, gallai'r disgyblion ddiffodd y cyfrifiadur yn y mains (y prif gyflenwad trydan), heb achosi unrhyw niwed i'r system weithredu. Cychwynai'r cyfrifiadur o roi'r mains ar on, o fewn tua 4 eiliad; cymharer hyn gyda chyfrifiaduron diweddarach, a gymerai tua 60 eiliad i'w ailgychwyn, a hyd yn oed pum munud os oedd y cyfrifiadur wedi'i ddiffodd drwy dorriad yn y cyflenwad trydan gyda'r OS yn gwiro ac yn trwsio'i hun!

Yn ddiweddarach cyflwynwyd cyfrifiaduron fel yr IBM PC XT, a oedd yn cynnwys gyrrwyr disg magnetig, a mwy o RAM, gan ganiatáu iddynt lwytho eu systemau gweithredu o ddisg i mewn i RAM, gyda dim ond y bootloader (y BIOS mewn cyfrifiaduron cydnaws IBM) yn y ROM. Roedd y trefniant hwn yn caniatáu system weithredu fwy cymhleth ac hawdd ei uwchraddio.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Cydrannau arwahanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyn y cyflwr caled (solid state), defnyddiai IBM y Capacitor Read Only Storage (CROS) a'r Transformer Read Only Storage (TROS) i storio microcod ar gyfer y modelau System/360, y 360/85 a'r ddau cyntaf i'w cyflwyno, sef y 370/155 a'r 370/165 o'r model S/370.

Cydrannau cyflwr solet[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r math symlaf o ROM cyflwr solet mor hen a thechnoleg y lled-ddargludydd (semiconductor) ei hun. Pan ddyfeisiwyd y cylched gyfannol, daeth mask ROM i fodolaeth, sef grid o linellau o eiriau (y mewnbwn cyfeiriad) a'r llinellau bit (yr allbwn data), a gysylltwyd drwy switshis transistor a'i gilydd.

Mewn mask ROM, mae'r data wedi'i amgodio yn y gylched, fel y gellir ei raglennu.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. geiriadur.bangor.ac.uk; Y Termiadur Addysg; adalwyd 1 Mawrth 2019.