Rómulo Macció

Oddi ar Wicipedia
Rómulo Macció
FfugenwMaccio, Romulo Edit this on Wikidata
Ganwyd1931 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Bu farw11 Mawrth 2016 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, drafftsmon Edit this on Wikidata

Roedd Rómulo Macció (29 Ebrill 1931 - 11 Mawrth 2016) yn arlunydd o'r Ariannin a oedd yn gysylltiedig â'r mudiad celf avant-garde yn ei wlad enedigol a datblygodd yn ystod y 1960au.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Yn enedigol o Buenos Aires, ddatblygodd Macció ddiddordeb cynnar mewn darlunio, roedd yn hunan addysgedig a chafodd ei logi fel dylunydd graffeg yn bedair ar ddeg oed. Erbyn canol ei hugeiniau roedd wedi ennill rhywfaint o enwogrwydd, a chafodd yr arddangosfa gyntaf o'i waith ei gynnal yn Galeria Gatea, Buenos Aires ym 1956. Daeth celf haniaethol weledol hyf Macció ag ef i sylw pobl megis y pensaer Clorindo Testa a'r cyflunydd Rogelio Polesello a wahoddodd ef i ymuno â'r Grŵp Boa, un o nifer o gylchoedd deallusol a oedd dylanwadu ar fywyd diwylliannol yr Ariannin ar y pryd. Fel aelod o grŵp o saith arlunydd haniaethol a oedd yn cynnwys Jorge de la Vega, Ernesto Deirangly, Enrique Sobisch a Luis Felipe Noé fe ddaeth Macció yn un o arloeswr y mudiad neo-ffigurol a oedd yn ysgubo celfyddyd America Ladin y 1960au.[2]

Roedd Macció yn disgrifio ei hun fel rebel yn erbyn estheteg mewn celf, a chondemniodd llawer o'r portreadau a thirluniau parchus a oedd yn amlwg yng nghelf ei gyfnod fel dim namyn Siocled Pinc.

Roedd llawer o weithiau Macció yn portreadu artaith gan gynnwys darluniau o bobl oedd yn aml y meirw neu'n marw ac yn cael eu gosod yn erbyn cefndir a oedd yn awgrymu llygredd trefol a dirywiad. Bu ei waith mwy diweddar yn tueddu i ganolbwyntio ar broblemau cymdeithasol.[3]

Mae gwaith Macció yn parhau i gael ei arddangos yn amlwg yn orielau'r Ariannin, yr Unol Daleithiau ac Ewrop. Mae nifer o'i weithiau yng nghasgliadau parhaol Amgueddfa Genedlaethol y Celfyddydau Cain yn Buenos Aires, Amgueddfa Gelf Blanton ac Amgueddfa a Gardd Cerfluniau Hirshhorn yn Washington DC . Cyhoeddwyd wyth llyfr o werthfawrogiad o'i waith ers 1969.

Gwobrau (anghyflawn)[golygu | golygu cod]

  • 1959 Prix De Ridder
  • 1962 Gwobr Ryngwladol Sefydliad Di Tella

Derbyniodd gwobr Konex am y celfyddydau gweledol ym 1982, 1992 a 2002 sef gwobr a gyflwynir i'r pum gwaith celf gorau o'r Ariannin a grëwyd yn ystod y ddegawd flaenorol.

Arddangosfeydd (anghyflawn)[golygu | golygu cod]

  • 1963 Arddangosfa Dwyflynyddol Sao Paulo.
  • 1967 Sefydliad Di Tella, Buenos Aires
  • 1968 Arddangosfa Dwyflynyddol Di Venezia, Pafiliwn yr Ariannin
  • 1969 Canolfan Cysylltiadau Rhwng Americanaidd, Efrog Newydd
  • 1976 Amgueddfa Celfyddyd Fodern, Dinas Mecsico
  • 1977 Amgueddfa Celf Fodern, Paris
  • 1985 Arddangosfa Dwyflynyddol Sao Paulo
  • 1987 Neuaddau Cenedlaethol, Buenos Aires
  • 1988 Arddangosfa Dwyflynyddol Di Venezia
  • 1990 Neuadd Saint Jean, Hotel de Ville, Paris
  • 1991 Castello Sforzesco, -Sala Viscontea, Milan
  • 1991 Sefydliad America Ladin, Rhufain
  • 1996 Museo Cuevas, Dinas Mecsico
  • 1997 Sefydliad PROA, Buenos Aires
  • 1999 Canolfan Celfyddydol Recoleta, Buenos Aires.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw Macció ar 11 Mawrth 2016 yn 84 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Cementerio de la Recoleta, Buenos Aires.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]