Quintus Veranius Nepos

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Quintus Veranius)
Quintus Veranius Nepos
Ganwyd12 Edit this on Wikidata
Forum Novum Edit this on Wikidata
Bu farw58 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, person milwrol Edit this on Wikidata
Swyddtribune of the plebs, llywodraethwr Rhufeinig, Praetor, llywodraethwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig Edit this on Wikidata
TadQuintus Veranius Edit this on Wikidata
PriodOctavia Sergia Plautilla Edit this on Wikidata
PlantVerania Gemina, Verania Octavilla Edit this on Wikidata

Cadfridog a llywodraethwr Rhufeinig oedd Quintus Veranius Nepos (bu farw 57).

Cofnodir iddo wasanaeth fel tribwn y lleng Legio IV Scythica ac fel quaestor dan yr ymerawdwr Tiberius. Yn 43, pan ffurfiodd yr ymerawdwr Claudius dalaith newydd Lycia-Pamphylia, penododd Veranius yn lywodraethwr. Bu yno hyd 48, gan orchfygu gwrthryfel Cylicia Tracheotide. Bu'n gonswl yn 49.

Yn 57 penodwyd ef yn llywodraethwr Prydain, yn olynydd i Aulus Didius Gallus. Dechreuodd ymgyrch yn erbyn y Silwriaid yn ne-ddwyrain Cymru, ond bu farw o fewn y flwyddyn. Olynwyd ef gan Gaius Suetonius Paulinus.

Cyflwynodd yr athronydd Groegaidd Onasander ei lyfr ar dactegau milwrol, Strategikos, i Veranius.