Pyreneau

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Pyrenees)
Jump to navigation Jump to search
Pyreneau
Central pyrenees.jpg
Math cadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Pyrene Edit this on Wikidata
Cysylltir gyda Penrhyn Iberia Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Alpide belt Edit this on Wikidata
Gwlad Sbaen, Ffrainc, Andorra Edit this on Wikidata
Arwynebedd 19,000 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 3,404 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 42.67°N 1°E Edit this on Wikidata
Hyd 491 cilometr Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegol Eocene Edit this on Wikidata
Deunydd metamorphic rock Edit this on Wikidata

Mae'r Pyreneau (Sbaeneg: Pirineos; Ffrangeg: Pyrénées; Catalaneg: Pirineus; Aragoneg: Perineus; Basgeg: Pirinioak) yn fynyddoedd yn ne-orllewin Ewrop sy'n gwahanu Ffrainc a Sbaen. Maent yn ymestyn am tua 430 km (267 milltir) o Fae Biscay i Fôr y Canoldir.

Enwyd y Pyreneau ar ôl Pyrene (tân mewn Groeg), cymeriad mewn mytholeg Roeg, merch Bebryx, a reibiwyd gan Herakles. Ffôdd i'r mynyddoedd lle cafodd ei chladdu neu ei bwyta gan anifeiliaid gwyllt.

Mae'r ffin rhwng Ffrainc a Sbaen yn dilyn llinell copaon uchaf y Pyreneau am y rhan fwyaf o'i hyd; mae gwlad fechan Andorra ynghanol y Pyrenaeau. Y mynyddoedd uchaf yw Pico d'Aneto neu Pic de Néthou 3,404 m (11,168 troedfedd), Mont Posets 3,375 m a Mont Perdu neu Monte Perdido 3,355 m.

Mae'r Pyreneau yn nodedig am amrywiaeth o anifeiliaid, adar a phlanhigion, gan gynnwys rhai mathau sy'n unigryw i'r mynyddoedd yma. Yn y gaeaf mae sgïo yn boblogaidd yma, tra yn yr haf mae'r Pyreneau yn gyrchfan boblogaidd iawn i gerddwyr a mynyddwyr. Mae tri llwybr cerdded pellter hir yn arwain ar draws y Pyreneau, GR 10 yn Ffrainc ar hyd y llethrau gogleddol, GR11 yn Sbaen ar draws y llethrau deheuol a'r Haute Randonnée Pyrénéenne (HRP) sy'n arwain ar hyd y copaon.

Pic de Bugatet yng ngwarchodle natur Néouvielle