Puszcza Kampinoska

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Mae Puszcza Kampinoska (Coedwig Kampinos) yn ardal goediog sy'n gorwedd yng nghanolbarth Gwlad Pwyl, yn nyffryn afon Wisła i'r gogledd-orllewin o ddinas Warsaw. Mae gan yr ardal arwynebedd oddeutu 670 km², ond dim ond 270 km² sydd dan orchudd coed. Mae'r ardal wedi ei dynodi fel parc cenedlaethol, a derbyniodd statws gwarchodfa fiosffer UNESCO yn 2000.

Flag of Poland.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad Pwyl. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.