Gwarchodfa fiosffer

Oddi ar Wicipedia

Mae UNESCO yn cynnal rhestr o Warchodfeydd Biosffer y byd. Ardaloedd cadwraeth gyda chydnabyddiaeth ryngwladol ydynt, sydd i fod i ddangos perthynas gytbwys rhwng dyn a natur, hynny yw, hyrwyddo datblygu cynaliadwy.

Rhwydwaith Gwarchodfeydd Biosffer y Byd[golygu | golygu cod]

Map yn dangos Rhwydwaith Gwarchodfeydd Biosffer y Byd yn 2009. Noder bod gwarchodfeydd traws-ffiniol wedi eu cyfri mwy nag unwaith.

Yn 2012 roedd cyfanswm o 598 gwarchodfa fiosffer, mewn 117 gwlad dros y byd.[1].

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd Rhaglen Dyn a'r Biosffer (MAB) UNESCO ym 1971, a arweiniodd at ddechrau dynodi gwarchodfeydd biosffer ym 1977. Yn y flynyddoedd a ddilynodd, cynyddodd y nifer o warchdfeydd biosffer yn gyflym.

Yn y 1990au cynnar, newidiwyd pwyslaid rhaglen MAB er mwyn hyrwyddo perthynas dyn a natur yn nhermau byw'n gynaladwy, creu incwm a lleihau tlodi. Mewn gwarchodfeydd biosffer, nid yw natur yn cael ei wahanu oddi wrth bobl, ond yn hytrach yn cael ei warchod wrth ei ddefnyddio. Maent felly yn lefydd lle mae pobl yn byw ac yn gweithio - gan gynnwys ardaloedd gwyrdd ar gyrion dinasoedd mawrion hyd yn oed.

Ym 1995, cynhaliwyd ail Gynhadledd Gwarchodfeydd Biosffer y Byd yn Seville. Yno, cytunwyd ar ddiffiniad ffurfiol o amcanion a gweithdrefnau i'w dilyn wrth ddynodi gwarchodfeydd biosffer. Ers hynny, bu'n rhaid i nifer o warchodfeydd a dderbyniodd statws biosffer yn y 1970au a'r 1980au wedi gorfod unai ehangu er mwyn cydymffurfio â'r diffiniad newydd, neu golli'r statws.

Ardal UNESCO Nifer y
Gwarchodfeydd
biosffer
Nifer y
Gwledydd
Affrica 74 33
Y Taleithiau Arabaidd 261 11
Asia a gwledydd y Môr Tawel 107 28
Ewrop a Gogledd America 261 33
America Ladin a'r Caribî 109 20

1 Gan gynnwys Biosffer Gwledydd y Môr Canol, a rennir rhwng Moroco a Sbaen.
* Ffynhonnell: UNESCO, 2012[1]

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Directory of the World Network of Biosphere Reserves (WNBR)". United Nations Educational, Scientific and Cultural Organization. -. Cyrchwyd 09 Awst 2012. Check date values in: |accessdate=, |date= (help)