Ptolemi I Soter

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Ptolemi I Sóter)
Ptolemi I Soter
Ganwyd360s CC Edit this on Wikidata
Macedon Edit this on Wikidata
Bu farw280s CC Edit this on Wikidata
Alexandria Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMacedon, Ptolemaic Kingdom Edit this on Wikidata
Galwedigaethbrenin neu frenhines, hanesydd, person milwrol Edit this on Wikidata
Swyddsomatophylakes, Pharo, strategos Edit this on Wikidata
TadLagus Edit this on Wikidata
MamArsinoe of Macedon Edit this on Wikidata
PriodArtakama, Thaïs, Eurydice of Egypt, Berenice I o'r Aipht Edit this on Wikidata
PlantPtolemy II Philadelphus, Arsinoe II, Ptolemy Ceraunus, Meleager, Lysandra, Ptolémaïs, Philotera, Argaeus of Egypt, Irene, Lagos Edit this on Wikidata
LlinachBrenhinllin y Ptolemïaid Edit this on Wikidata

Cadfridog Macedonaidd dan Alecsander Fawr a sylfaenydd brenhinllin y Ptolemiaid yn yr Hen Aifft oedd Ptolemi I Soter (Groeg: Πτολεμαῖος Σωτήρ, Ptolemaios Soter, "Ptolemi y Gwaredwr", 367 CC283 CC).

Roedd Ptolemi yn un o gadfridogion mwyaf blaenllaw Alecsander, ac yn gyfaill iddo o'u bachgendod. Bu ganddo ran amlwg yn ymgyrchoedd Alecsander yn Affganistan ac India, a chofnodir iddo briodi tywysogers Bersaidd, Artakama, yn Susa.

Wedi marwolaeth Alecsander yn 323 CC, daeth Ptolemi yn satrap yr Aifft. Ymladdodd yn llwyddiannus yn erbyn un arall o gadfrodogion Alecsander, Perdiccas, pan ymosododd ef ar yr Aifft, ac yn 305/4 CC cyhoeddodd ei hun yn frenin. Yn 285 CC, gwnaeth ei fab, Ptolemi II Philadelphus, yn gyd-frenin.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Walter M. Ellis, Ptolemy of Egypt (Routledge, 1993)