Prys Edwards

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Prys Edwards
Ganwyd Ifan Prys Edwards Edit this on Wikidata
11 Ionawr 1942 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Bensaernïaeth Cymru Edit this on Wikidata
Galwedigaeth pensaer, gwirfoddolwr Edit this on Wikidata
Tad Ifan ab Owen Edwards Edit this on Wikidata

Pensaer a dyn busnes yw Prys Edwards (ganwyd 11 Chwefror 1942).[1]

Ganwyd Ifan Prys Edwards yn Aberystwyth, yn fab i Syr Ifan ab Owen Edwards ac Eirys Mary Lloyd Edwards (née Phillips). Ei frawd oedd Owen Edwards. Graddiodd mewn Pensaerniaeth o Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Caerdydd yn 1965. Roedd yn brif bartner yn ei gwmni pensaernïol ei hun, Partneriaeth Prys Edwards, rhwng 1966 ac 1986.

Urdd Gobaith Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Fel mab i sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru bu'n ynghlwm a'r corff drwy ei fywyd. Bu'n aelod am flynyddoedd, yn swyddog yn y gwersylloedd, yn gyn arweinydd Aelwyd Aberystwyth ac yn arweinydd yr Urdd yn yr ymgyrch i gael Deddf yr Iaith Gymraeg.

Mae wedi dal swyddi gwirfoddol o fewn yr Urdd ers 1965 yn cynnwys sgrifennydd Mygedol, Trysorydd, Cadeirydd a Llywydd. Bu'n ymddiriedolwr hyd at 2012 cyn ymddeol oherwydd ei iechyd. Roedd yn parhau fel Llywydd Anrhydeddus.[2]

Swyddi eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn un o gyfarwyddwyr Bwrdd Datblygu Cymru Wledig rhwng 1976 ac 1984. Roedd yn lywydd Bwrdd Croeso Cymru rhwng 1984 ac 1992 ac yn gadeirydd S4C rhwng 1992 ac 1998. Mae hefyd wedi bod yn aelod o aelod o fyrddau CADW, Awdurdod Twristiaeth Prydeinig a Chanolfan Mileniwm Cymru.[3]

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Priododd Catherine Williams ar 3 Medi 1966 a cawsant ddau o blant, Lisa Mair a Sion Ab Ifan.

Bu'n dioddef o gyflwr Parkinson, fel ei frawd.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Ifan Prys Edwards. Prabook. Adalwyd ar 18 Mehefin 2019.
  2. Galw am fudiad arall o fewn yr Urdd ar gyfer rhieni , BBC Cymru Fyw, 27 Ionawr 2012. Cyrchwyd ar 18 Mehefin 2019.
  3.  Pwyllgor Gwaith yr Urdd. Urdd Gobaith Cymru. Adalwyd ar 18 Mehefin 2019.
  4. 'Yr Urdd achubodd yr iaith': Prys Edwards , BBC Cymru Fyw, 13 Mawrth 2014. Cyrchwyd ar 18 Mehefin 2019.