Neidio i'r cynnwys

Prydwen

Oddi ar Wicipedia

Llong yr Arthur chwedlonol yn y traddodiad Cymreig yw Prydwen. Gallai'r ail elfen [g]wen gyfeiro naill ai at liw y llong neu at y ffaith ei bod yn "sanctaidd" (h.y. yn llong arallfydol).

Yn y gerdd 'Preiddeu Annwfn', sydd ar glawr yn Llyfr Taliesin, mae Arthur a'i wŷr yn anturio dros y môr yn y llong Prydwen i geisio Pair Annwn. Mordaith arallfydol yw honno, cyffelyb i'r immramau yn nhraddodiad Iwerddon. Aethpwyd â thri "llongiad" drosodd, sy'n awgrymu tair mordaith. Methiant arwrol fu'r ymgais a galara'r bardd y ffaith mai dim ond saith a ddychwelodd yn fyw o'r daith beryglus, ac yn eu plith y bardd Taliesin.

Mae'n debygol bod 'Preiddiau Annwfn' yn gynharach na'r chwedl Culhwch ac Olwen. Yn y chwedl enwog honno cyfeirir at Arthur a'i wŷr yn hwylio ar fwrdd Prydwen i Iwerddon er mwyn cipio pair hud a lledrith Diwrnach Wyddel.

Yn yr Historia Regum Britanniae gan Sieffre o Fynwy rhoddir 'Prydwen' yn enw ar darian arbennig y brenin Arthur, a addurnir â delw o Fair Forwyn. Ond mae'n amlwg bod Sieffre wedi addasu neu gamddeall y traddodiad Cymreig a hefyd yn ei Gristioneiddo.