Protestiadau Bahrain 2011
Jump to navigation
Jump to search
Yn Ionawr 2011 gwelwyd llawer o brotestiadau yn ymledu drwy'r Dwyrain Canol, protestiadau a gwrthryfeloedd a ellir eu hadnabod fel "Y Deffroad Mwslemaidd" ac erbyn Chwefror roedd y teimlad hwn o chwyldro wedi cyrraedd Bahrein. Lladdwyd 5 o sifiliaid ar 18 Chwefror pan saethodd yr heddlu i ganol y dorf. Ar 14 Mawrth gyrrodd milwyr Sawdi Arabia a'r Yr Emiradau Arabaidd Unedig er mwyn gwarchod gweithfeydd nwy ac arian y wlad.
Dywedir fod yr heddlu'n llawer rhy llawdrwm yn eu hymateb.[1] Diflannodd 23 o bobl yn Awst 2010, ac erbyn Mawrth 2011 roeddent i gyd wedi arwyddo eu bont yn euog am godi arian i fudiadau terfysgol. Mae Amnest Rhyngwladol wedi mynegi eu cryn bryder ynghylch y 23, a'u barn ydy eu bônt i gyd wedi eu poenydio.[2]