Protestiadau Bahrain (2011)

Oddi ar Wicipedia
Protestiadau Bahrain
Enghraifft o'r canlynolgwrthryfel, protest, youth activism, Anufudd-dod sifil, civil resistance Edit this on Wikidata
Rhan oY Gwanwyn Arabaidd Edit this on Wikidata
Dechreuwyd14 Chwefror 2011 Edit this on Wikidata
LleoliadBahrain Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gwersyll protestwyr ar y "Gylchfan Perlau", sef canolbwynt eu protestio - nes iddo gael ei ddymchwel gan y protestwyr eu hunain fel symbol o ddymchwel y wladwriaeth.

Yn Ionawr 2011 gwelwyd llawer o brotestiadau yn ymledu drwy'r Dwyrain Canol, protestiadau a gwrthryfeloedd a ellir eu hadnabod fel "Y Deffroad Mwslemaidd" ac erbyn Chwefror roedd y teimlad hwn o chwyldro wedi cyrraedd Bahrein. Lladdwyd 5 o sifiliaid ar 18 Chwefror pan saethodd yr heddlu i ganol y dorf. Ar 14 Mawrth gyrrodd milwyr Sawdi Arabia a'r Yr Emiradau Arabaidd Unedig er mwyn gwarchod gweithfeydd nwy ac arian y wlad.

Dywedir fod yr heddlu'n llawer rhy llawdrwm yn eu hymateb.[1] Diflannodd 23 o bobl yn Awst 2010, ac erbyn Mawrth 2011 roeddent i gyd wedi arwyddo eu bont yn euog am godi arian i fudiadau terfysgol. Mae Amnest Rhyngwladol wedi mynegi eu cryn bryder ynghylch y 23, a'u barn ydy eu bod i gyd wedi eu poenydio.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwefan Saesneg Arab News.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-07. Cyrchwyd 2011-04-03.
  2. Gwefan Saesneg y BBC.