Profiad gwaith

Oddi ar Wicipedia

Profiad o waith mewn maes neu alwedigaeth benodol yw profiad gwaith.

Yn aml defnyddir y term i olygu gwaith gwirfoddol gan bobl ifanc, yn aml myfyrwyr, i gael blas ar waith proffesiynol. Mae profiad gwaith yn rhan o'r cwricwlwm cenedlaethol mewn ysgolion uwchradd yn y Deyrnas Unedig ac Awstralia. Mae interniaethau yn lleoliadau gwaith i fyfyrwyr addysg uwch, yn aml yn ddi-dâl.

Mae myfyrwyr sydd yn astudio cyrsiau rhyngosod pedair mlynedd, gan amlaf ym meysydd gwyddoniaeth, peirianneg, a chyfrifiadureg, yn cymryd blwyddyn o brofiad gwaith. Fel arfer digwyddir hyn yn ystod trydedd flwyddyn y cwrs, er mwyn i'r myfyrwyr gael cymhwyso y wybodaeth a sgiliau a ddysgant at sefyllfaoedd real.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]