Interniaeth

Oddi ar Wicipedia

Modd o hyfforddiant galwedigaethol wrth-y-swydd ar gyfer swyddi coler wen yw interniaeth sydd ar gael i fyfyrwyr neu raddedigion i roi iddynt brofiad o waith mewn diwydiant arbennig. Mae'n para am gyfnod penodol o amser, gan amlaf ychydig o fisoedd. Mae rhai yn rhoi cyflog, eraill yn talu am dreuliau, ac eraill yn gwbl ddi-dâl.

Yn aml gosodir tasgau penodol i interniaid i'w gwneud, megis cynorthwyo prosiect cwmni. Yn ogystal â dysgu a chael profiad o waith mewn diwydiant, gall interniaid rhwydweithio i gael gysylltiaid ar gyfer dyfodol eu gyrfa. Mewn rhai diwydiannau, interniaeth yw'r unig ffordd i bobl gael eu cyflogi o fewn y diwydiant yn y dyfodol.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Ffynonellau[golygu | golygu cod]