Prifysgol Hebron
Enghraifft o'r canlynol | prifysgol gyhoeddus |
---|---|
Gwlad | Palesteina |
Dechrau/Sefydlu | 1971 |
Dechreuwyd | 1971 |
Pencadlys | Hebron |
Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina |
Rhanbarth | Hebron |
Gwefan | http://www.hebron.edu/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Prifysgol Hebron yn brifysgol gyhoeddus ddi-elw yn ninas Hebron, ar y Lan Orllewinol yng ngwladwriaeth Palesteina. Roedd dros deng mil o fyfyrwyr ar y gofrestr yn 2020. Fe'i sefydlwyd yn 1971.
Hanes
[golygu | golygu cod]Roedd diweddar faer Hebron, Sheikh Mohammad 'Ali Al-Ja'bari, yn dymuno agor sefydliad dysgu uwch i wneud iawn am gyfyngiadau a rhwystrau ar bobl ifanc a grëwyd gan Israel dors lawer o flynyddoedd. Yn 1971 torrwyd y dywarchen gyntaf, a gosodwyd y sylfaen; a chyn hir agorwyd y drysau i bedwar deg tri o fyfyrwyr o wahanol rannau o Balestina.
Ymosodiad gan Israeliaid
[golygu | golygu cod]Ym 1983, ymosododd ymsefydlwyr Israel ar y campws gan ladd 3 myfyriwr ac anafu 50 o fyfyrwyr. Ar ôl yr ymosodiad caewyd y Brifysgol gan Weinyddiaeth Sifil Israel am gyfnod.
Byddin Israel yn cau'r brifysgol
[golygu | golygu cod]Ym 1996, caewyd Prifysgol Hebron am chwe mis gan fyddin Israel, yr IDF. Cynhaliodd Cadeirydd y Brifysgol ynghyd â chyfadran addysgu ddosbarthiadau ar y palmant y tu allan i furiau'r brifysgol mewn gwrthwynebiad i weithredu profoclyd yr IDF.[1]
Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
[golygu | golygu cod]Mae Prifysgol Hebron yn cael ei llywodraethu gan Fwrdd Ymddiriedolwyr ymreolaethol sy'n cynnwys addysgwyr a gweithwyr proffesiynol o gymunedau Palesteina. Penodir llywydd y brifysgol a chadarnhau penodi is-lywyddion a deoniaid ar argymhelliad y llywydd. Mae'r bwrdd yn cymeradwyo'r gyllideb a'r cynlluniau datblygu cyffredinol a gyflwynir iddo gan gyngor y brifysgol.
Gweinyddiaeth a pholisïau
[golygu | golygu cod]Mae'r brifysgol yn dilyn system semester, gyda dau semester pedwar mis yn dechrau yn yr Hydref a'r Gwanwyn; ceir semester haf dwys.
Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2015-2016, derbyniwyd mwy na 1,500 o fyfyrwyr ar y lefel israddedig.
Mae gan y Brifysgol bolisi cofrestru sy'n agored i fyfyrwyr o bob rhan o gymdeithas Palesteina. Y gofynion i wneud cais i astudio yw cael y Tawjihi (tystysgrif matriciwleiddio) neu'r hyn sy'n cyfateb iddo.Ceir rhaglen cymorth ariannol arbennig sy'n darparu grantiau a benthyciadau i fyfyrwyr anghenus.
Mae'r Brifysgol yn aelod o'r sefydliadau canlynol: Cymdeithas Ryngwladol Prifysgolion, Cymuned Prifysgolion Môr y Canoldir, Cynghrair Prifysgolion Islamaidd a Chymdeithas Prifysgolion Arabaidd (AARU). Yn ogystal, mae'r Brifysgol yn cael ei chydnabod gan yr Undeb Ewropeaidd ac mae ganddi rif PADOR a PIC dilys.
Cyfadrannau a rhaglenni
[golygu | golygu cod]Ceir 9 coleg israddedig ym Mhrifysgol Hebron (HU): Celfyddydau, Cyfraith Islamaidd (Al-Shari`a), Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Amaethyddiaeth, Addysg, Cyllid a Rheolaeth, Nyrsio, a Fferylliaeth a'r Gyfraith a gwyddoniaeth wleidyddol. Mae pob Cyfadran yn cynnig graddau BA neu B.Sc.
Mae'r Coleg Astudiaethau Graddedig yn cynnig graddau MA a Msc mewn Iaith a Llenyddiaeth Arabeg, Ieithyddiaeth Gymhwysol ac Addysgu Iaith Saesneg, Hanes, Barnwriaeth Islamaidd, Diogelu Planhigion, Adnoddau Amaethyddiaeth Naturiol a'i Rheolaeth Gynaliadwy, Rheolaeth, Sylfeini Crefydd, Mathemateg a Chemeg.
Yn 2015 roedd 170 o aelodau staff cyfadran llawn amser ac mae 105 ohonynt yn ddeiliaid Ph.D.
Er 2008, mae HU wedi bod yn cynnal rhaglen academaidd ddwys ar gyfer Palestiniaid israddedig sydd â dinasyddiaeth Israel. Yn 2015/2016 cofrestwryd 1,200 o fyfyrwyr.
Canolfannau ac unedau arbennig
[golygu | golygu cod]Mae gan HU lawer o unedau sy'n ymroddedig i wella addysg, hyfforddiant a gwasanaethau, e.e. uned ynni adnewyddadwy, canolfan ragoriaeth ar gyfer addysg, uned gyswllt diwydiannol, uned estyniad amaethyddol, uned adfer tir sych, a'r ganolfan adnoddau Iaith.
Mae'r Clinig Cyfreithiol yn cynnig adnoddau a chyngor i fyfyrwyr, staff a'r gymuned gyfan. Mae yna 10 adran arbenigol:
- >Rhyddid Academaidd
- >Cyfraith Lafur
- >Gwrth-drais
- >Cyngor cyfreithiol cyffredinol
- >Cyfraith Teulu
- >Hawl i Dai
- >Hawliau Dynol
- Cyfraith Stryd (ymwybyddiaeth y cyhoedd)
- Cyfiawnder Ieuenctid
- Partneriaid Hawliau Menywod
Cyfleusterau
[golygu | golygu cod]Ceir Amgueddfa Brifysgol yn Ninas Hebron.[2]
Radio prifysgol
[golygu | golygu cod]Yn 2008 sefydlwyd Radio Alam fel offeryn i gyrraedd cymuned y Brifysgol a'r cyhoedd gyda negeseuon addysgol pwysig, sioeau materion cyfoes a rhaglenni defnyddiol eraill ar 96.1 FM. Mae'n darlledu 24/7 a gellir ei glywed ledled y Lan Orllewinol ac ar-lein trwy http://radio.hebron.edu ; mae'n cael ei staffio gan weithwyr proffesiynol ac mae myfyrwyr cyfryngau yn gallu gwneud cyrsiau yn y stiwdios.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Rhestr o brifysgolion Palestina
- Addysg yn nhiriogaethau Palestina
- Rhestr o amgueddfeydd yn nhiriogaethau Palestina
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Kern, Kathleen (2010-01-01). As Resident Aliens: Christian Peacemaker Teams in the West Bank, 1995-2005. Wipf and Stock Publishers. ISBN 9781630874261.
- ↑ Hebron University Museum