Prambanan

Oddi ar Wicipedia
Prambanan
MathHindu temple, Candi o Indonesia Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladIndonesia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau7.752°S 110.49122°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion

Temlau Hindŵaidd yng nghanolbarth Jafa, Indonesia yw Prambanan. Safant tua 18 km i'r dwyrain o Yogjakarta, ar y ffordd i Solo. Y fwyaf o'r temlau hyn yw Lara Jonggrang, a elwir yn aml, yn anghywir, yn "deml Prambanan".

Adeiladwyd y temlau tua 850 O.C., yn ystod cyfnod teyrnas Mataram. Maent wedi eu cysegru i Shiva. Dechreuwyd cloddio ar y safle yn 1893, a dechreuwyd ar y gwaith o adfer y temlau yn 1918.

Yn 1991, dynodwyd Prambanan yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Eginyn erthygl sydd uchod am Indonesia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.