Pont Life

Oddi ar Wicipedia
Pont Life
Mathpont droed Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogolMai 1816 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1816 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDulyn Edit this on Wikidata
GwladBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Cyfesurynnau53.3461°N 6.263°W Edit this on Wikidata
Hyd43 metr Edit this on Wikidata
Map
DeunyddHaearn bwrw, pren, Sment Edit this on Wikidata

Mae Pont Life (Gaeleg: Droichead na Leathphingine, neu Droichead na Life) yn bont ar gyfer cerddwyr ar draws Afon Life ynghanol Dulyn, Iwerddon, a adeiladwyd ym Mai 1816.[1] Pont haearn bwrw yw hi ac fe'i gwnaethpwyd yn Swydd Amwythig.[2]

Enw gwreiddiol y bont oedd Pont Wellington, ond newidiwyd ei henw i 'Bont Life'. Enw Saesneg mwy gyffredin y bont yw Ha’penny Bridge.

Hanes[golygu | golygu cod]

Roedd gan William Walsh 7 fferi, i gyd mewn cyflwr gwael, dros yr afon cyn adeiladwyd y bont. Gorfodwyd Walsh trwsio’r fferiau neu adeiladu pont. Ei ddewis oedd adeiladu’r bont, a chafodd yr hawl i ofyn am doll o hanner geiniog, dros gyfnod o gant mlynedd.[3] Codwyd y toll i geiniog a hanner hyd at 1919, pan ddiddymodd y toll.

Comisiynwyd y bont gan maer Dulyn, John Claudius Beresford gyda Chwmni Coalbrookdale o Loegr, yn defnyddio haearn o Sliabh an Iarainn, Leitrim[4] Gwnaethpwyd y bont yn 18 darn ac anfonwyd i Ddulyn. Cynlluniwyd y bont a goruchwiliwyd y gwaith adeiladu gan John Windsor[5].

Atgyweiriad[golygu | golygu cod]

Atgyweiriwyd y bont yn 2001 gan gwmni Harland a Wolff, hyd at mis Rhagfyr.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan yr Irish Times
  2. Gwefan Archiseek
  3. Gwefan yr ‘Irish Independent’; erthygl ar 19 Mai 2016
  4. "Gwefan y Leitrim Observer". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-24. Cyrchwyd 2020-12-31.
  5. Shropshire Star, 20 Mai 2016
  6. Gwefan BBC