Pompeu Fabra i Poch

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Pompeu Fabra i Poch
Pompeu fabra.jpg
Ganwyd 20 Chwefror 1868 Edit this on Wikidata
Vila de Gràcia Edit this on Wikidata
Bu farw 25 Rhagfyr 1948 Edit this on Wikidata (80 oed)
Prades Edit this on Wikidata
Man preswyl Prades, Barcelona, Badalona Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Catalwnia Catalwnia
Galwedigaeth ieithydd, ieithegydd, peiriannydd, academydd, Ysgrifennwr, Cemegydd Edit this on Wikidata
Swydd president of the Institut d'Estudis Catalans, Arlywydd, Gweinidog yn Llywodraeth Catalwnia, Cadeirydd, Cadeirydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Institut del Teatre
  • Prifysgol Barcelona
  • Prifysgol Ymreolaethol Barcelona
  • Provincial Deputation of Barcelona Edit this on Wikidata
Adnabyddus am Diccionari General de la Llengua Catalana, Normes ortogràfiques Edit this on Wikidata
Priod Dolors Mestre i Climent Edit this on Wikidata
Plant Q59312288, Q59324340, Dolors Fabra i Mestre Edit this on Wikidata
Gwobr/au doctor honoris causa Edit this on Wikidata

Athronydd, geiriadurwr a pheiriannydd Catalan oedd Pompeu Fabra i Poch (20 Chwefror 1868 - 25 Rhagfyr 1948) a roddodd drefn ar y Gatalaneg. Datblygodd orgraff yr iaith i fod yr hyn ydyw heddiw.

Yn ôl Josep Pla Fabra oedd y Catalan pwysicaf yr 20g, oherwydd ei lwyddiant fel ieithydd yn ailbobi'r iaith i'r hyn ydyw heddiw.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Pompeu Fabra yn 1868 yn rhif 32 yn stryd 'Carrer de la Mare de Déu de la Salut' yn yr hen bentref Gràcia, ac wedyn yn stryd Gran de Gràcia. Roedd yn fab i Josep Fabra i Roca a Carolina Poch i Martí, yr ifancaf o'r plant. Roedd ganddo ddeuddeg o frodyr a chwiorydd, ond bu farw deg ohonynt ac dim ond ef a dwy chwaer a dyfodd yn oedolion. Pan oedd yn bum mlwydd oed (1873) cyhoeddwyd gweriniarth cyntaf Sbaen, roedd ei dad yn weriniaethol ac fe'i etholwyd yn faer y dref. Er bod y teulu wedi symud i Barcelona pan oedd yn 6 mlwydd oed, roedd pob amser yn falch o'i wreiddiau, a'i gysylltiad â Gracia.[2]

Dechrau´r astudiaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Pompeu Fabra brifysgol fel dyn ifanc, gweld gan Ramon Casas (MNAC).

Astudiodd Fabra peirianneg ddiwydiannol yn y brifysgol a biloleg yn ei amser ei hun. Yn 1891 roedd L'Avenç wedi cyhoeddi y llyfr gramadeg 'Ensayo de gramática del catalán valenciano moderno'. Roedd y cyhoeddiad yn cynnwys am y tro cyntaf sillafu ffonetig.

Yn 1902 gan fod Fabra wedi llwyddo yn ei arholiadau cemeg mynychodd 'LEscola d'enginyers de Bilbao'. Bu'n byw yn Bilbo (Bilbao) nes iddo farw yn 1912. Er gwaethaf y pellter rhyngddo ef a'i gartref, gweithiodd yn galed ar ei astudiaethau, yn enwedig mewn bioleg.

Yn 1906 cymerodd ran yn y Gyngres Ryngwladol o´r iaith Gatalanaidd er mwyn trafod sillafu Catalan. Oherwydd ei enw da a'i allu arbennig, gofynnodd Prat de la Riba iddo arwain prosiect safoni'r Catalaneg. Felly dychwelodd i Catalwnia a phenodwyd ef yn sefydlydd Adran Ieithyddol yr  IEC a hefyd yn 'càtedra' yn yr 'Estudis Universitaris Catalans'. Yn 1912 , cyhoeddodd Gramática de la lengua catalana yn Sbaeneg. Flwyddyn wedyn cyhoeddodd Rheolau Sillafu (1913). Bu llawer o ddadlau ynghylch y cyhoeddiad yma. Roedd y gwaith yma yn parchu ynganiad, y dafodiaith, a tharddiad geiriau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. lletres.net; Gwefan Gatalaneg
  2. Pompeu Fabra, filòleg il·lustre... i excursionista; 19 Ebrill 2012; gol. El Periódico de Catalunya.