Pluto (Disney)

Oddi ar Wicipedia
Ymddangosiad cyntafThe Chain Gang' (1930)
Crewyd ganWalt Disney
LlaisPinto Clovig (1931 - 1939) (1941 - 1961).
Lee Millar (1939 - 1941),
Bill Farmer (1990 - cyf)
CymarFifi

Mae Pluto yn gymeriad cartŵn a grëwyd ym 1930 gan gwmni Walt Disney Productions. Pluto yw ci anwes Mickey Mouse. Yn wahanol i'r cymeriadau anifeilaidd eraill sy'n rhannu bydysawd Mickey Mouse nid yw Pluto yn gymeriad anthropomorffig. Ac eithrio ambell fynegiant wynebol dynol, cymeriad ci sydd ganddo nid cymeriad dynol, mae'n cerdded ar bedwar troed ac nid yw'n llefaru. Mae Pluto yn gi o frîd amhenodol gyda blew melyn a chlustiau a chynffon duon.[1]

Ymddangosiad cynnar[golygu | golygu cod]

Cododd Pluto i enwogrwydd gyda'i rolau mewn cartwnau animeiddiedig. Roedd ei ymddangosiad cyntaf ym 1930 yn y ffilm The Chain Gang, fel gwaetgi oedd yn chwilio am Mickey wedi iddo ffoi o'r carchar. Yn ffilm 1931, The Moose Hunt ymddangosodd gyntaf fel ci anwes Mickey. Ers hynny mae wedi ymddangos mewn dros 75 o ffilmiau. Ei ymddangosiad diweddaraf mewn ffilm theatrig oedd Runaway Brain ym 1995. Ers ei ymddangosiad theatrig diwethaf mae hefyd wedi ymddangos mewn ffilmiau syth i fideo megis Mickey, Donald, Goofy: The Three Musketeers a Mickey's Magical Christmas: Snowed in at the House of Mouse. Mae wedi ymddangos mewn cyfresi teledu megis Mickey Mouse Clubhouse. Mae hefyd wedi ymddangos yn y gyfres gemau fideo Kingdom Hearts.[2]

Cymeriad[golygu | golygu cod]

Fel ci anwes nodwedd bwysicaf Pluto yw ei ffyddlondeb i'w feistr Mickey. Ers ei ymddangosiad cyntaf fel gwaetgi, mae ei allu i glywed a dilyn oglau er mwyn canfod unrhyw beth neu unrhyw un wedi bod yn rhan bwysig o'i alluoedd fel cymeriad. Mae ystumiau wyneb Pluto yn dangos ei fod yn ystyrgar ac yn gymeriad sy'n ceisio gweithio allan be i wneud nesaf. Mae Pluto, gan ei fod yn gi, yn syrthio mewn cariad gyda geist yn hawdd. Mae ganddo bump neu chwe chenau efo'i bartner Fifi gan gynnwys Pluto Jr ei fab.[3]

Lleisio[golygu | golygu cod]

Llesiwyd Pluto yn wreiddiol gan Pinto Clovig rhwng 1931 a 1939 ac eto rhwng 1941 a 1961. Cafodd ei leisio gan Lee Millar rhwng 1939 a 1941, ei leisydd presennol yw Bill Farmer.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Disney, Walt. Walt Disney's Story of Pluto The Pup. Whitman BLB, 1938.
  2. Smith, Dave. Disney A to Z: The Updated Official Encyclopedia. New York: Hyperion, 1998. Print. ISBN 0-7868-6391-9
  3. Disney Fandom - Pluto adalwyd 16 Hydref 2018
  4. Bill Farmer ar IMDb adalwyd 16 Hydref 2018