Plougoñ

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Plogoff
Plougoñ
A storm at Pors-Loubous.jpg
Arfbais Plogoff
Arfbais
Gwlad Ffrainc
Rhanbarth Llydaw
Département Finistère
Arrondissement Quimper
Canton Pont-Croix
Intercommunality Cap-Sizun
Arwynebedd1 11.73 km2 (4.53 mi sg)
Poblogaeth (2013)2 1,291
 • Dwysedd 110/km2 (290/mi sg)
Parth amser CET (UTC+1)
 • Summer (DST) CEST (UTC+2)
INSEE/Postal code 29168 / 29770
Uchder 0–80 m (0–262 ft)

1 Data o Gofrestr Tir Ffrainc, sy'n hepgor llynnoedd, pyllau, rhewlifau > 1 km² (0.386 sq mi neu 247 erw) ac aberoedd yr afonydd.

2 'Poblogaeth heb "gyfri dwbwl": trigolion mwy nag un gymuned (e.e. myfyrwyr a milwyr - cyfrifwyd unwaith yn unig.

Mae Plougoñ (Ffrangeg: Plogoff) yn gymuned yn Departamant Penn-ar-bed (Ffrangeg Finistère), Llydaw. Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg.

Poblogaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Population - Municipality code 29168

Protestiadau Atomfa Plougoñ[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn y 1970au daeth Plougoñ yn enwog am brotestiadau enfawr yn erbyn y bwridad i godi aromfa niwclear.

Yn y 1970au cynnar penderfynodd cwmni ynni cenedlaethol Ffrainc - EDF, adeiladau atomfa yn Plougoñ. Llwyddodd bobl yr ardal blocio'r holl ffordd o amgylch safle yn 1976, gyda phrotestiadau eto yn 1978 a 1979.

Yn ôl cyfraith Ffrainc roedd rhaid i ddogfennau cynlluniau adeiladu ar gyfer yr atomfa cael eu harddangos i’r cyhoedd yn y Ti-kêr (neuadd y dref) lleol. Ond fe wrthododd y cyngor dangos y dogfennau ac yn y diwedd llosgwyd y dogfennau gan y cynghorwyr o flaen dorf yn sgwâr y bentref.

Ceisiodd lywodraeth Ffrainc gosod dogfennau newydd mewn carafan tu allan i neuadd y dref ond ddaeth y carafann yn ganolbwynt protestiadau enfawr.[1] Am 45 diwrnod ceisiodd unedau heddlu terfysg y CRS, heddlu milwrol a milwyr paratrwp gwarchod y carafannau yn erbyn ymosodiadau miloedd o brotestwyr.

Yn 1981 etholwyd François Mitterrand yn llywydd Ffrainc a chyhoeddodd ei fod yn stopio prosiect yr atomfa newydd.

Mae ffilm ddogfen Plogoff, des pierres contre des fusils (Plougoñ, cerrig yn erbyn gynnau) am hanes y brwydro yn erbyn lluoedd Ffrangeg wedi’i gwneud gan Nicole a Félix Le Garrec.[2]

Galeri[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cymunedau Penn-ar-Bed

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Flag of Brittany (Gwenn ha du).svg Eginyn erthygl sydd uchod am Lydaw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.