Plasdy Llwydiarth, Llanfihangel-yng-Ngwynfa

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Plasdy Llwydiarth
Ceir Plasdy Llwydiarth hefyd yn Llannerch-y-medd. Mae'r erthygl hon yn sôn am yr un ym Mhowys.

Plasdy enfawr yng nghymuned Llanfihangel-yng-Ngwynfa oedd Plasdy Llwydiarth, neu Llwydiarth Hall fel y'i gelwid yn aml. Bu'n eiddo i deulu'r Fychaniaid am sawl canrif, tan i Ann Vaughan, merch Edward Vaughan, briodi Syr Watcyn Williams Wynn, a daeth y plasdy'n rhan o Ystad Wynnstay. Chwalwyd y plasdy yn y 1940au, ond mae'r gerddi wedi eu cofrestru gan Cadw, ac mae seiliau'r adeilad wedi'u cadw o dan yr wyneb.[1] Yn 1944 bu farw un o deulu'r Williams Wynn a bu'n rhaid gwerthu'r ystad i dalu'r dreth marwolaeth.

O amgylch y plas roedd parc enfawr, ble megid ceirw, sef Parc Llwydiarth, ac amgylchynwyd y parc â wal uchel i gadw'r ceirw rhag dianc. Gwelir rhan o'r wal heddiw y tu ôl i dŷ "Caepenfras" a safai pont dros afon Efyrnwy (gyferbyn â "Chuddig") a elwid yn "Bont y Ceirw".

Y teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Nid oes llawer o wybodaeth am adeiladu'r plasdy. Dywed traddodiad i deulu Celynin ap Ririd ddianc o dde Cymru, wedi i un o'u haelodau ladd maer Caerfyrddin. Roedd Celynin yn un o ddisgynyddion Aleth, Brenin Dyfed. Priododd Celynin etifedd Llwydiarth, sef Gwladus a oedd hefyd yn un o dras tywysogion Powys.[2] Roedd Gruffudd, gor-gor-ŵyr Celynin, yn un o gefnogwyr Owain Glyn Dŵr, a chafodd bardwn am hyn gan Edward de Charlton, arglwydd Powys. Nid ydyw'r bardd Lewis Glyn Cothi yn cyfeirio at y teulu ac mae'n bosibl nad oedd iddo bwysigrwydd cyn cyfnod y Tuduriaid, efallai oherwydd cryfder Herbertiaid Powys. Bu'r ddau deulu'n cweryla gyda'i gilydd am rai blynyddoedd ac mae hefyd yn bosibl mai dyma'r rheswm pam na chafwyd aelodau seneddol dros sir Drefaldwyn o blith teulu Llwydiarth, a dim ond un siryf — John ab Owen Vaughan, yn 1583.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. bbc.co.uk; adalwyd Ionawr 2016
  2. Y Bywgraffiadur Arlein; Llyfrgell Gemedlaethol Cymru; adalwyd 5 Ionawr 2016