Plas Machynlleth

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Plas Machynlleth
Y Plas, Machynlleth.jpg
Math plasty gwledig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Powys Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.5883°N 3.8529°W Edit this on Wikidata
Manylion
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Arfbais y teulu ar y gat.

Y Plas, Machynlleth oedd cartref Ardalyddion Londonderry yng Nghymru. Fe'i lleolir yn nhref farchnad Machynlleth ym Mhowys (Sir Drefaldwyn gynt). Daeth i ran y teulu trwy briodas George Henry Robert Charles William Vane-Tempest, Is-iarll Seaham (ac wedi hynny Iarll Vane a 5ed Ardalydd Londonderry), â Mary Cornelia Edwards. Roedd ei thad, Syr John Edwards, wedi ymestyn ac ailenwi'r plas.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Y plas oedd cartref teuluol 5ed Ardalydd Londonderry. Gadawodd ei fab hynaf Machynlleth wedi iddo ddod yn Ardalydd, ond arhosodd ei fab ieuengaf, yr Arglwydd Herbert Vane-Tempest, gan breswylio yn y Plas hyd nes iddo gael ei ladd yng ngwrthdrawiad trên Aber-miwl ar 26 Ionawr, 1921.

Daw darnau hynaf y plas o'r 17g; ychwanegwyd y brif fynedfa blaen ym 1853. Greenfields oedd enw'r plas am flynyddoedd lawer. Cafodd ei ail-enwi'n ddiweddarach ar ôl y dref.

Rhoddodd 7fed Ardalydd Londonderry y plas a'r stad yn rhodd i'r dref, a defnyddiwyd y plas ar gyfer swyddfeydd y cyngor. Ym 1995, ar ôl gwaith adnewyddu gwerth £3 miliwn, a arianwyd gan Gyngor Dosbarth Maldwyn a'r Undeb Ewropeaidd, daeth yr adeilad yn ganolfan dreftadaeth "Celtica". Am nifer o flynyddoedd, llwyddodd y ganolfan i ddenu twristiaid, ymweliadau addysgol a chynadleddau. Daeth i feddiant yr awdurdod unedol newydd, Cyngor Sir Powys. Gydag ychydig iawn o fuddsoddiad gan y Cyngor, a nifer yr ymwelwyr yn dirywio, penderfynodd y Cyngor cau'r ganolfan yn 2006, gan nodi colled o £1,100,000 rhwng 1998 a 2006.[1] Defnyddir y Plas bellach fel canolfan gymunedol a lleoliad cyfarfodydd.

Y Fynedfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cartrefi eraill Ardalyddion Londonderry:

  • Londonderry House yn Llundain
  • Mount Stewart yng Ngogledd Iwerddon
  • Neuadd Seaham yn Swydd Durham
  • Wynyard Park yn Swydd Durham
  • Neuadd Loring yng Nghaint

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. BBC News (6 September 2005). "Celtica Attraction to Close". Cyrchwyd 2007-06-13.

Cyfesurynnau: 52°35′18″N 3°51′10″W / 52.58827°N 3.85287°W / 52.58827; -3.85287