Plaid Alba

Oddi ar Wicipedia
Plaid Alba
Enghraifft o'r canlynolplaid wleidyddol Edit this on Wikidata
IdiolegAnnibyniaeth yr Alban, cenedlaetholdeb Albanaidd, democratiaeth gymdeithasol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu26 Mawrth 2020 Edit this on Wikidata
PencadlysCaeredin Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.albaparty.org Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Plaid Alba yn blaid genedlaetholgar Albanaidd sydd wedi'i lleoli yng Nghaeredin. [1] Sefydlwyd Plaid Alba gan Laurie Flynn [2] ac fe’i lansiwyd yn gyhoeddus gan gyn Brif Weinidog yr Alban, Alex Salmond ar 26 Mawrth 2021. [3] [4] Cyhoeddodd y blaid gynlluniau i sefyll ymgeiswyr rhestr yn unig yn etholiad Senedd yr Alban 2021 .

Hanes[golygu | golygu cod]

Cofrestrwyd y blaid gyda'r Comisiwn Etholiadol ar 8 Chwefror 2021.

Ar 26 Mawrth 2021, cyhoeddodd cyn Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, yn lansiad etholiad y blaid ei fod wedi ymuno â’r blaid ac y byddai’n dod yn arweinydd newydd. [2]

Ar 27 Mawrth 2021 cyhoeddodd Kenny MacAskill, Aelod Seneddol etholaeth Dwyrain Lothian a chyn ysgrifennydd cyfiawnder Senedd yr Alban ei fod wedi ymadael a'r SNP ac wedi ymuno â Phlaid Alba.[5]. Ar yr un diwrnod ymunodd Neale Hanvey AS SNP etholaeth Kirkcaldy a Cowdenbeath â'r blaid.

Arweinwyr[golygu | golygu cod]

# Enw Cychwyn Dod i ben darlun
1 Laurie Flynn 8 Chwefror 2021 25 Mawrth 2021
2 Alex Salmond 25 Mawrth 2021 deilydd

Etholiad Senedd yr Alban 2021[golygu | golygu cod]

Cyhoeddodd y blaid gynlluniau i sefyll o leiaf bedwar ymgeisydd ar gyfer y bleidlais rhestr ym mhob rhanbarth yn etholiad Senedd yr Alban 2021. [4] Ymhlith yr ymgeiswyr sy'n debygol o sefyll mae Salmond yn ogystal â chyn-aelodau’r SNP Chris McEleny, Eva Comrie a Cynthia Guthrie. [2] Mae’r blaid yn cymeradwyo pleidleisio i’r SNP ar gyfer y bleidlais etholaethol a phleidleisio dros Blaid Alba ar gyfer y rhestr, er mwyn sicrhau bod mwy o Aelodau Seneddol o blaid annibyniaeth yn cael eu hethol. [6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "View registration - The Electoral Commission". search.electoralcommission.org.uk.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Alex Salmond to lead new Alba Party into Scottish Parliament election". The National. 2021-03-26. Cyrchwyd 26 March 2021.
  3. "Alex Salmond launches new independence-focused political party". The Guardian. 2021-03-26. Cyrchwyd 2021-03-26.
  4. 4.0 4.1 "Alex Salmond launches new political party". BBC News. 2021-03-26. Cyrchwyd 2021-03-26.
  5. "Former Scottish justice secretary Kenny MacAskill defects to Alex Salmond's new Alba party". The Independent. 2021-03-27. Cyrchwyd 2021-03-27.
  6. Heffer, Greg (26 March 2021). "Alex Salmond becomes leader of new pro-independence Alba Party ahead of Scottish elections". Sky News.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Gwefan y Blaid