Pixie Lott

Oddi ar Wicipedia
Pixie Lott
FfugenwPixie Lott Edit this on Wikidata
GanwydVictoria Louise Lott Edit this on Wikidata
12 Ionawr 1991 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Label recordioMercury Records Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Italia Conti Academy of Theatre Arts
  • Brentwood County High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, cerddor, canwr-gyfansoddwr, canwr, actor llwyfan, actor ffilm, artist recordio Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata
Math o laismezzo-soprano Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.pixielott.com, http://pixielott.com/ Edit this on Wikidata

Cantores ac actores Seisnig ydy Pixie Lott (ganed 12 Ionawr 1991). Arwyddodd gytundeb gyda Mercury Records yn y Deyrnas Unedig a label Interscope yn America.

Cafodd ei chân gyntaf ei rhyddhau i'w lawrlwytho ar 6 Mehefin 2009 ac ar ffurf sengl ar 8 Mehefin. Aeth y gân i rif un y siartiau ar 14 Mehefin 2009.

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Lott yn Bromley, yn ne-ddwyrain Llundain. Mae'n byw yn Essex gyda'i thad, sy'n werthwr cyfranddaliadau, a'i mam sy'n wraig tŷ; mae ganddi frawd a chwaer hŷn. Rhoddwyd y ffugenw "Pixie" iddi am ei bod yn "faban bychan, ciwt" a edrychai fel tylwyth teg..[1]

Wedi iddi ddechrau canu yn ei hysgol eglwysig, mynychodd Lott ysgol Sadwrn "Italia Conti Associates" yn Chislehurst pan oedd yn bum mlwydd oed. Pan symudodd ei theulu i Essex parhaodd trwy fynd i brif ysgol "Italia Conti Academy of Theatre Arts", lle derbyniodd ysgoloriaeth. Tra'n fyfyriwr yno, ymddangosodd yng nghynhyrchiad y West End o Chitty Chitty Bang Bang ym Mhaladiwm Llundain, ac yn rhaglen BBC One "Celebrate the Sound of Music" lle chwaraeodd rhan Louisa von Trapp. Pan oedd yn 14 oed, roedd yn rhan o'r llinell gorws, gan recordio'r elfen leisiol yn opera Roger Waters Ça Ira.

Ymddangosiadau ffilm a theledu[golygu | golygu cod]

Disgograffiaeth[golygu | golygu cod]

Albymau stiwdio[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Teitl Safle uchaf yn y siart
DU Iwerddon Iseldiroedd Seland Newydd
2009 Turn It Up
  • Albwm stiwdio cyntaf
  • Rhyddhawyd: 14 Medi 2009
  • Label: Mercury
6 18 92 30

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Pop Pixie has a whole Lotta love. BBC News. 2009-06-05. Adalwyd ar 2009-06-108


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.