Pindus
Gwedd
| Math | cadwyn o fynyddoedd |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | llain Alpid |
| Sir | Western Macedonia Region, Epiros, Thessalia, Swydd Gjirokastër, Bwrdeistref Zagori |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 8,652 troedfedd |
| Cyfesurynnau | 40°N 20.75°E |
| Hyd | 180 cilometr |
![]() | |
Mynyddoedd yng ngogledd Gwlad Groeg yw'r Pindus (Groeg: Πίνδος). Maent yn ymestyn am tua 160 km o'r gogledd-orllewin i'r de-ddwyrain. Y copa uchaf yw Mynydd Smolikas, 2,637 medr o uchder.
Mae'r mynyddoedd hyn yn rhan o gadwyn o fynyddoedd sy'n ymestyn o'r Alpau trwy'r Alpau Dinarig ac yn cyrraedd hyd at Fynydd Taigetos yn y de, yna'n ffurfio llawer o'r ynysoedd yn ne Môr Aegaea, megis Kythera, Antikythera, Creta, Karpathos a Rhodos, cyn ffurfio Mynyddoedd Taurus yn ne Twrci.
Ceir anifeiliaid megis yr arth a'r blaidd yn y Pindus, ac mae sgïo yn boblogaidd yn y rhannau uchaf yn y gaeaf.
