Pier y Mwmbwls

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Pier y Mwmbwls
MumblesPier.jpg
Math Pier Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Y Mwmbwls Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.5697°N 3.9803°W Edit this on Wikidata
Manylion
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Llwybr cerdded ar Bier y Mwmbwls
Llwybr llithro'r bâd achub

Mae Pier y Mwmbwls yn bier Fictoraidd 835 troedfedd/ 225 medr o hyd a gafodd ei adeiladu ym 1898. Fe'i lleolir yng nghornel de-ddwyreiniol Bae Abertawe ger pentref y Mwmbwls, Abertawe, Cymru.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Adeiladu[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynlluniwyd y pier gan W. Sutcliffe Marsh ac fe'i hyrwyddwyd gan John Jones Jenkins o Rheilffordd Rhondda a Bae Abertawe. Agorodd y pier ar y 10 Mai, 1898 ar gost o £10,000. Dyma oedd cyrchfan gorllewinol y rheilffordd gyntaf yn y byd ar gyfer teithwyr, Rheilffordd Abertawe a'r Mwmbwls; roedd hefyd yn gyrchfan amlwg ar gyfer stemar olwyn y "White Funnel", gan fynd â thwristiaid ar hyd yr Afon Hafren a Sianel Bryste.

Yn ei hanterth[golygu | golygu cod y dudalen]

Derbyniodd "The Amusement Equipment Company" (AMECO) drwydded i weithredu o'r pier o'r 1 Hydref, 1937. Rhannwyd y pier yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ond cafodd AMECO y rhydd-ddaliad ym 1957, gan ail-ddatblygu'r cyfleuster, gan ychwanegu man glanio i gychod. Adeiladwyd arcêd newydd ar du blaen y pier ym 1966. Gwariodd AMECO rhwng £25,000 a £30,000 yn flynyddol ar gynnal a chade ac i osod gwaith dur newydd rhwng 1975 a 1985.[1].

Ail-agor[golygu | golygu cod y dudalen]

Caewyd y pier ar y 1 Hydref, 1987 am weddnewidiad o £40,000 a fyddai'n rhoi dur newydd o amgylch y fynedfa. Ail-agorwyd y pier ar ddydd Gwener y Groglith, 1988.

Erbyn heddiw, defnyddir y pier ar gyfer pysgota a thwristiaeth, am ei fod yn cynnig golygfeydd panoramig o Fae Abertawe gyda Goleudy'r Mwmbwls ar y naill ochr a Phort Talbot ar yr ochr arall. Mae'r pier bellach yn eiddo i'r teulu Bollom.

Defnyddir y tir ger y pier fel canolfan adloniant sy'n cynnwys bariau, tŷ bwyta, rinc sglefrio iâ (a agorwyd yn 2006) ac arcêd adloniant.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]