Goleudy Mwmbwls
Gwedd
| Math | goleudy |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Y Mwmbwls |
| Sir | Abertawe, Y Mwmbwls |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 15.1 metr |
| Cyfesurynnau | 51.5668°N 3.97108°W |
![]() | |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
Mae Goleudy'r Mwmbwls, a adeiladwyd ym 1794, yn oleudy sydd wedi'i leoli yn y Mwmbwls ger Abertawe. Gellir ei weld yn glir o unrhyw leoliad ar hyd arfordir Bae Abertawe, sydd yn bum milltir o hyd. Ynghyd â'r orsaf llong achub bywyd gerllaw, y goleudy hwn yw'r tirnod a ffotograffir fwyaf ym mhentref y Mwmbwls.
Ceir dwy haen i'r tŵr ac yn wreiddiol arferai dau dân glo agored gael eu harddangos yno. Am fod y tânau glo yma yn anodd i'w cynnal, peidiwyd a'u defnyddio ac yn hytrach defnyddiwyd tân olew unigol mewn lantern ddur.
Hanes y lantern
[golygu | golygu cod]- Ym 1860, uwchraddiwyd y golau olew i olau deioptrig ac adeiladwyd yr amddiffynfa o amgylch y tŵr gan y Weinyddiaeth Rhyfel.
- Ym 1905, ychwanegwyd technoleg a alluogodd y golau i fflachio. Cafodd hyn ei awtomeiddio'n rhannol ym 1934.
- Erbyn 1977, roedd cyflwr y lantern wedi dirywio a chafodd ei symud oddi yno. Ychwanegwyd lantern newydd ym 1987.
- Ym 1995, symudwyd y prif olau ac ychwanegwyd ystod o baneli solar ac offer monitro mewn argyfwng.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Disgrifiad o Dŷ Trinity Archifwyd 2009-04-17 yn y Peiriant Wayback
- Gwefan bersonol gyda disgrifiad da Archifwyd 2009-05-29 yn y Peiriant Wayback
