Picteg
Gwedd
| Enghraifft o: | iaith farw, undeciphered language |
|---|---|
| Math | Celteg Ynysig, ieithoedd Brythonaidd |
| Daeth i ben | 9 g |
| Daeth i ben | 900 |
| Nifer y siaradwyr | |
| cod ISO 639-3 | xpi |
| Gwladwriaeth | Teyrnas yr Alban |
| System ysgrifennu | Ogam |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01t3b7 |
Roedd Picteg yn iaith Frythonig ddiflanedig o'r teulu Celtaidd o ieithoedd a siaredid gan y Pictiaid, pobl hynafol a drigai yng ngogledd yr Alban.
Mae rhai ysgolheigion, yn fwyaf nodedig Kenneth Jackson, wedi dadlau nad oedd Picteg yn iaith Indo-Ewropeaidd. Fodd bynnag, barn y mwyafrif o ysgolheigion erbyn hyn yw ei bod yn iaith Geltaidd yn perthyn i'r teulu Brythonig. Ceir nifer o elfennau mewn enwau lleoedd yn yr ardaloedd lle trigai'r Pictiaid sy'n debyg iawn i eiriau Cymraeg, er enghraifft aber, monid (mynydd) a lanerc (llannerch).