Pibydd Coeswyrdd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Pibydd Coeswerdd)
Pibydd Coeswyrdd
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Scolopacidae
Genws: Tringa
Rhywogaeth: T. nebularia
Enw deuenwol
Tringa nebularia
(Gunnerus, 1767)
Tringa nebularia

Mae'r Pibydd Coeswyrdd (Tringa totanus) yn un o aelodau mwyaf cyffredin teulu'r rhydyddion.

Mae'r Pibydd Coeswyrdd yn nythu ar draws Ewrop a gogledd Asia, yn cynnwys gogledd yr Alban. Yn y gaeaf mae'n symud tua'r de a'r gorllewin ac yn gaeafu o gwmpas Affrica, de Asia ac Awstralasia, er bod nifer llai yn gaeafu ymhellach i'r gogledd.

Gellir adnabod y Pibydd Coeswyrdd oddi wrth y coesau gwyrddlwyd a'r pig hir, llwyd. Mae'n nythu ar lawr, ac yn tua phedwar wy.

Yng Nghymru, ceir niferoedd sylweddol pan maent yn mudo tua'r gogledd yn y gwanwyn a thua'r de yn yr hydref, ac mae niferoedd llai yn treulio'r gaeaf yma. Fe'i ceir o gwmpas aberoedd yn bennaf.