Philip James

Oddi ar Wicipedia
Philip James
Ganwyd1664 Edit this on Wikidata
Pontarddulais Edit this on Wikidata
Bu farw1748 Edit this on Wikidata
Galwedigaethpregethwr, gweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata

Gweinidog cynnar gyda'r Bedyddwyr oedd Philip James (16641748).[1]

Ganwyd ym mhlwyf Llandeilo, Tal y bont, yn Sir Forgannwg, ar ororau Sir Gaerfyrddin. Dywedir taw unig blentyn ei rieni ydoedd. Aelodau o'r Eglwys Sefydledig oedd ei dad a'i fam, yn yr hon yr oeddynt yn bwriadu iddo ef fod yn weinidog, a chafodd addysg i'w gyfaddasu at hynny. Cyn iddo gymeryd ei urddo, cafodd achlysur i newid ei syniadau, a throdd at y Bedyddwyr. Tybir i hyn gymryd lle tua'r flwyddyn 1684, neu 1685, pan y rhaid fod ei ragolygon o ddyfod yn Anghydffurfiwr yn dra thywyll a digalon. Tramgwyddodd ei rieni yn dost wrtho ar yr achlysur, a phan y gwelsant nas gallent newid ei fwriad, na'i ddarbwyllo i ymlynu wrth Eglwys Loegr, troisant yn orphwyllog yn ei erbyn. Mor fychan oedd eu parch at hawl dyn i farnu drosto ei hun, neu ddyletswydd gŵr ifanc, ac ymgeisydd am y weinidogaeth, i chwilio a phenderfynu drosto ei hun ym materion pwysig crefydd. Dywedir i'w gwrthwynebiad eu cario mor bell ag i'w droi dros y drws, a thystio na wnaent un sylw byth mwyach ohono. Mor fawr a dallbleidiol oedd eu sêl dros yr Eglwys Wladol, a'u gwrthwynebiad yn erbyn yr Ymneilltuwyr, ac yn enwedig y bobl a elwid Ailfedyddwyr.

Wedi cael ei fwrw ymaith a'i ddiarddelwi fel hyn gan ei rieni, ymddengys iddo adael y wlad yn fuan iawn, a chrwydro cyn belled â Lerpwl, lle y preswyliodd am rai blynyddoedd, gan fyw y rhan fwyaf o'r amser hwnnw gyda boneddwr o feddyg oedd yn perthyn i enwad y Bedyddwyr, â'i enw Fabus. Arweiniwyd ef yno yn naturiol i fyfyrio meddyginiaeth, a chyrhaeddodd wybodaeth eang o'r alwedigaeth, yr hon y parhaodd i'w dilyn byth wedi hynny, gydag enwogrwydd a llwyddiant, ac o achos hynny y gelwid ef yn gyffredin y Doctor James.

O gylch amser y Chwyldroad, neu yn fuan ar ôl hynny, dychwelodd i wlad ei enedigaeth, a dechreuodd bregethu i eglwys y Bedyddwyr, a ymgynnullai yn Abertawe, ac yn y gymdogaeth, ac o'r hon, fe allai, er oedd efe yn aelod cyn ymadael o'r wlad. Beth a barodd iddo ddychwelyd i'w wlad, nid yw'n hysbys. Fe allai fod ei rieni wedi cymodi ag ef, ac wedi ei wahodd yn ôl, neu eu bod wedi marw, ac i'w heiddo ddisgyn iddo ef, yr hyn a ofynai am ei bresenoldeb yn y wlad. Beth bynnag am hynny, ymddengys iddo ymroddi yn selog i waith y weinidogaeth, a pharhau yn y swydd byth ar ôl hynny gyda chymeradwyaeth mawr. Ar ddechreuad ei weinidogaeth yn Abertawe, a'r parthau cymydogol, ar gyffiniau siroedd Morgannwg a Chaerfyrddin, yr oedd ganddo, ymysg eraill, y tra theilwng a pharchus Morgan Jones fel cydlafurwr, yr hwn a'i dilynodd fel prif fugail yr eglwys. Efe oedd hen daid y Dr Morgan Jones, o Hammersmith.

Bu Philip Jones yn dra bywiog a llafurus am rai blynyddoedd ymysg y gweinidogion Cymreig, ac ymddengys ei fod yn cael ei hoffi a'i barchu yn fawr gan yr holl gyfundeb. Roedd efe hefyd ymhlith y rhai a etholwyd i bregethu yn y gymanfa flynyddol, gorchwyl a roddid y pryd hwn yn unig i'r rhai a ystyrid yn fwyaf cymeradwy, doeth, ac enwog o'r pregethwyr. Ni thraddodid y pryd hwnnw, yn gyffredin, ond un bregeth yn unig mewn cymanfa, fel yr ymddengys fod yn fwy rhesymol ac angenrheidiol i'r pregethwr fod yn ŵr o enwogrwydd a chymeradwyaeth sefydledig. Philip James oedd y pregethwr yn y gymanfa a gynhaliwyd yn Llanwenarth, yn agos i'r Fenni, yn 1705. Mae'n debyg taw honno oedd y gymanfa Gymreig olaf y bu efe ynddi. Symudodd i Loegr tua'r amser hwnnw, ac ymsefydlodd yn Warwick fel bugail eglwys y Bedyddwyr yn y dref honno, lle y treuliodd efe gryn lawer o flynyddoedd, er anrhydedd iddo ei hun a lles i'w wrandawyr. Pa wedd bynnag, symudodd wedi hynny (ar ba achlysur nid ydys yn gwybod) o Warwick i Hemel Hempstead, yn Swydd Hertford, ac a gymerodd ofal bugeiliol yr eglwys yno, lle y cyflawnodd ei ddyletswyddau gweinidogaethol yr un mor anrhydeddus a ffyddlon ag y gwnaeth o'r blaen yn Warwick, a hynny hyd ddydd ei farwolaeth, yr hwn a ddigwyddodd yn 1748, pan ydoedd tua 84 oed, wedi bod yn fugail yr eglwys yn Hempsted am tua 30 mlynedd, ac yn Warwick am 13 neu 14 mlynedd.

Nid yw'n hysbys i Philip James ysgrifennu unrhyw waith ei hun, ond cyhoeddodd ei fab, Samuel, waith yn 1760, dan yr enw An Abstract of the Gracious Dealings of God with several eminent Christians.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Jenkins, R. T., (1953). JAMES, PHILIP (1664 - 1748), gweinidog cynnar gyda'r Bedyddwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 15 Meh 2019, o https://bywgraffiadur.cymru/article/c-JAME-PHI-1664
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.