Petter Dass
Petter Dass | |
---|---|
![]() Portread o Petter Dass gan arlunydd anhysbys (1684). | |
Ganwyd | c. 1647 ![]() Helgeland ![]() |
Bu farw | 17 Awst 1707 ![]() Alstahaug Municipality ![]() |
Dinasyddiaeth | Norwy ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ysgrifennwr, offeiriad, bardd ![]() |
Bardd Norwyaidd yn yr iaith Ddano-Norwyeg a gweinidog Protestannaidd oedd Petter Dass (1647 – 17 Awst 1707) sydd yn nodedig fel y llenor pwysig cyntaf yn llenyddiaeth fodern Norwy.
Ganed yn Nord Herøy, ger Alstahaug, yn nheyrnas Denmarc–Norwy, yn fab i farsiandïwr Albanaidd a mam o Helgeland. Astudiodd ym Mhrifysgol Copenhagen a chafodd ei ordeinio yn yr Eglwys Lwtheraidd ym 1677. Aeth i weinidogaethu Alstahaug ym 1689, ac yno y bu am weddill ei oes.[1]
Dosbarthwyd ei farddoniaeth ar ffurf llawysgrifau ymhlith y ffermwyr, bugeiliaid, a physgotwyr yn ei blwyf, a byddent yn dwyn ei benillion i'w cof. Yr unig gerdd a gyhoeddwyd yn ystod ei oes oedd Den nordske dale-viise (1683). Cesglid nifer o'i emynau a cherddi sanctaidd wedi ei farwolaeth yn y gyfrol Bibelski viise-bog (1711). Mae'n debyg ei waith enwocaf yw Nordlands trompet, cerdd dopograffaidd am Nordland a gyfeirir at y werin bobl.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ (Saesneg) Petter Dass. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Rhagfyr 2021.
- Beirdd Norwyaidd yr 17eg ganrif
- Beirdd Norwyaidd y 18fed ganrif
- Beirdd Norwyaidd yn yr iaith Ddaneg
- Beirdd Norwyaidd yn yr iaith Norwyeg
- Clerigwyr Norwyaidd yr 17eg ganrif
- Clerigwyr Norwyaidd y 18fed ganrif
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Copenhagen
- Emynwyr Norwyaidd
- Genedigaethau 1647
- Gweinidogion Protestannaidd Norwyaidd
- Marwolaethau 1707
- Pobl o Nordland