Peter R. de Vries

Oddi ar Wicipedia
Peter R. de Vries
Peter R. de Vries yn 2017.
GanwydPeter Rudolf de Vries Edit this on Wikidata
14 Tachwedd 1956 Edit this on Wikidata
Aalsmeer Edit this on Wikidata
Bu farw15 Gorffennaf 2021 Edit this on Wikidata
Amsterdam Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBrenhiniaeth yr Iseldiroedd Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyflwynydd teledu, program maker, gyrrwr rali, newyddiadurwr, colofnydd, cynhyrchydd teledu, actor, sgriptiwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amPeter R. de Vries: Crime Reporter Edit this on Wikidata
PartnerTahmina Akefi Edit this on Wikidata
PlantRoyce de Vries Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Emmy, Presenter of the Year Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.peterrdevries.nl/ Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Newyddiadurwr ymchwiliol a gohebydd trosedd Iseldiraidd oedd Peter Rudolf de Vries (14 Tachwedd 195615 Gorffennaf 2021).

Ganed yn Aalsmeer, Noord-Holland. Wedi iddo wasanaethu ym Myddin Frenhinol yr Iseldiroedd, ymunodd â'r papur newydd De Telegraaf yn yr Hâg ym 1978. Cafodd ei anfon i swyddfa'r papur yn y brifddinas Amsterdam, ac yno bu'n ysgrifennu am droseddau. Y brif stori a ddygwyd enwogrwydd iddo oedd cipio Freddy Heineken, cadeirydd a phrif weithredwr bragdy Heineken N.V., ym 1983. Ysgrifennodd de Vries ddau lyfr am yr achos: yr adroddiad ffeithiol De zaak Heineken (1983), a'r nofel De ontvoering van Alfred Heineken (1987) sydd yn seiliedig ar gyfweliadau'r awdur â'r ddau brif gipiwr. Byddai de Vries hefyd yn dilyn trywydd un arall o'r cipwyr i Baragwâi, ym 1995.[1]

Ym 1987 fe'i penodwyd yn olygydd y cylchgrawn wythnosol Aktueel, a fe drodd sylw'r cyhoeddiad hwnnw at newyddion tor-cyfraith. O 1995 i 2012, cyflwynodd y rhaglen deledu Peter R. de Vries, misdaadverslaggever, ac ymchwiliodd i nifer o lofruddiaethau, cyhuddiadau o lygredigaeth yn yr heddlu, achosion o fasnachu pobl a chyffuriau, a throseddau eraill. Defnyddiodd y rhaglen i gyhuddo Joran van der Sloot o fod yn gyfrifol am lofruddiaeth yr Americanes Natalee Holloway yn Arwba. Yn 2005 sefydlodd de Vries blaid wleidyddol, Partij voor Rechtvaardigheid, Daadkracht en Vooruitgang. Cynhaliodd arolwg barn i ganfod awydd y cyhoedd am blaid newydd, gan addo y byddai'n rhoi gorau i'r fenter os nad oedd 41% yn ei chefnogi. Penderfynodd dadsefydlu'r blaid wedi i 31% o'r rhai a gwestiynwyd wrthod y syniad.[1]

Ar 6 Gorffennaf 2021 cafodd de Vries ei saethu sawl gwaith mewn stryd ger y Leidseplein yng nghanol Amsterdam, wedi iddo adael stiwdio teledu ar ôl ymddangos ar sioe sgwrs.[2] Bu farw o'i anafiadau yn yr ysbyty naw diwrnod yn ddiweddarach, yn 64 oed.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) "Peter de Vries, award-winning Dutch investigative journalist renowned for his probes into the criminal underworld – obituary", The Daily Telegraph (15 Gorffennaf 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 15 Gorffennaf 2021.
  2. (Saesneg) Senay Boztas, "Dutch crime reporter 'fighting for his life' after Amsterdam assassination attempt", The Daily Telegraph (7 Gorffennaf 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 15 Gorffennaf 2021.
  3. (Saesneg) "Dutch crime reporter Peter de Vries dies after being shot in the head", The Daily Telegraph (15 Gorffennaf 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 15 Gorffennaf 2021.