Petal

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Diagram yn dangos rhannau blodyn aeddfed. Yn yr enghraifft hon, mae'r perianth wedi ei rannu i galycs (sepalau) a chorola (petalau).

Dail wedi eu haddasu sy'n amgylchynu rhannau atgenhedlol blodau yw petalau. Yn aml, maent yn lliwgar neu â siapau anarferol er mwyn denu peillwyr. Gellir cyfeirio at holl betalau un blodyn gyda'i gilydd fel corola. Fel arfer, mae petalau i'w gweld ar y cyd â set arall o ddail addasedig oddi tanynt; y rhain yw'r o'r enw sepalau, neu'r calycs pan yn cyfeirio at y set gyfan ohonynt. Gyda'i gilydd, mae'r corola a'r calycs yn ffurfio'r perianth. Mewn rhywogaethau lle mae'r petalau a'r sepalau yn anodd i'w gwahaniaethu, megis yn y genera Aloe a Tulipa, maen nhw'n cael eu hadnabod fel y tepalau. I'r gwrthwyneb, mae llawer o blanhigion lle mae'r sepalau a'r petalau yn dra gwahanol, felly gellir defnyddio'r gair cywir yn hyderus. Pan fo tepalau diwahaniaeth yn debyg i betalau clasurol, gelwir nhw yn betalffurf. Mae tepalau petalffurf i'w gweld mewn yn y monocotyledonau petalffurf megis lilïau.

Er fod petalau yn aml yn amlwg iawn mewn planhigion sy'n cael eu peillio gan anifeiliaid, mewn planhigion sy'n cael eu peillio gan y gwynt, mae'r petalau fel arfer yn fychan neu ar goll yn llwyr.

Corola[golygu | golygu cod y dudalen]

Corola yn ffurfio tiwb gyda phigau hir (a chalycs gwyrdd ar wahan) ym mlodau Brugmansia aurea, planhigyn yn nheulu'r codwarth (Solanaceae).

Mae rhan y corola mewn esblygiad planhigion wedi ei astudio yn eang ers i Charles Darwin gynnig damcaniaeth fod corolâu hir wedi cyd-esblygu â thafodau hir mewn peillwyr.[1]

Os yw petalau blodyn yn rhydd o'i gilydd, mae'r planhigyn yn amlbetalog. Os yw'r petalau wedi asio at ei gilydd oleiaf yn rhannol, mae'r planhigyn yn gamopetalog neu'n sympetalog. Mewn rhai rhywogaethau, megis trwyn y llo, mae'r corola'n asio i ffurfio tiwb hir.

Amrywiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Pelargonium peltatum: mae blodau'r planhigyn hwn bron yr un fath â rhai Geranium, ond eu bod yn sygomorffig.
Geranium incanum gyda blodyn actinomorffig, sy'n nodweddiadol o'r genws.
Pysen wen â blodau sygomorffig.
Cennin pedr (Narcissus pseudonarcissus), gan ddangos, o goesyn i frig y blodyn: fflurwain, cwpan, tepalau, corona.

Gall petalau fod yn wahanol iawn rhwng gwahanol rywogaethau o blanhigion. Yn gyntaf, mae nifer y petalau yn aml yn nodweddiadol o grwpiau dosbarthu. Er enghraifft, mewn planhigion ewdicot (y grwp mwyaf o blanhigion deugibog), mae pedwar neu bum petal i'w cael fel arfer, tra bo gan blodau mewn planhigion unhadgibog fel arfer dri neu chwe phetal, er fod llawer o eithriadau i'r rheol hwn.[2]

Gall sidell y petalau, neu'r corola, ddangos unai cymesuredd cylchdro neu gymesuredd dwyochrog. Os oes cymesuredd cylchdro i'w weld, gyda'r petalau i gyd yr un siap a'r un maint, mae'r blodyn yn actinomorffig. Os mai dim ond mewn un plân y ceir cymesuredd (hy cymesuredd dwyochrog), dywedir fod y blodyn yn sygomorffig. Mae blodau sygomorffig nodweddiadol yn cynnwys tegeirianau, pys a trwyn y llo.

Mewn llawer o aelodau teulu'r Asteraceae, megis blodyn yr haul, mae dau fath o flodau yn ffurfio un adeiledd blodeuol mawr. O amgylch y pen blodyn, ceir blodigau pelydr. Mae pob un o'r blodigau pelydr yma, mewn termau anatomegol, yn flodyn unigol, gydag un petal mawr. Yng nghanol y pen blodyn, ceir math arall: blodigau disg. Fel arfer, does gan y blodigau yma ddim petalau. Mewn cennin pedr (Narcissus), mae rhan isaf y tepalau wedi asio i ffurfio cwpan, tra bo'r gwir betalau hefyd wedi asio i ffurfio trwmped (corona).[3][4][5]

Mae amrywiaeth eang i'w weld mewn planhigion blodeuol o ran y patrymau a'r lliwiau ar eu petalau, a gall rhywogaethau sy'n perthyn yn agos fod â phetalau lliw gwahanol iawn.[6] Mewn llawer o rywogaethau, mae'r patrymau cymhleth ar y petalau wedi esblygu fel arwyddion er mwyn annog a thywys peillwyr.[7] Gall y patrymau yma ddefnyddio pigmentau gweladwy,[8] pigmentau uwchfioled[9] neu liwiau strwythurol.[10]

Geneteg[golygu | golygu cod y dudalen]

Model ABC datblygiad blodau. Mae'r organnau pennodol (sepalau, petalau, brigerau a charpelau) yn datblygu trwy gyfuniad unigryw o'r genynnau homeotig A, B ac C.

Ffurfiau gwahanol o'i gilydd yw sepalau, petalau, brigerau a charpelau, ac mae sail enetig eu datblygiad (y model ABC) yn adlewyrchu hyn.[11]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. L. Anders Nilsson (1988). "The evolution of flowers with deep corolla tubes". Nature 334 (6178): 147–149. Bibcode 1988Natur.334..147N. doi:10.1038/334147a0.
  2. Soltis, Pamela S.; Douglas E. Soltis (2004). "The origin and diversification of angiosperms". American Journal of Botany 91 (10): 1614–1626. doi:10.3732/ajb.91.10.1614. PMID 21652312. http://www.amjbot.org/cgi/content/full/91/10/1614.
  3. Simpson 2011, p. 365.
  4. Foster 2014, Hypanthium.
  5. Graham, SW, Barrett, SCH (2004). Phylogenetic reconstruction of the evolution of stylar polymorphisms in Narcissus (Amaryllidaceae), American Journal of Botany, Cyfrol 91, Rhifyn 7, tud. 1007–1021. DOI:10.3732/ajb.91.7.1007URL
  6. Whibley, A. C. (2006-08-18). "Evolutionary Paths Underlying Flower Color Variation in Antirrhinum" (yn en). Science 313 (5789): 963–966. doi:10.1126/science.1129161. ISSN 0036-8075. http://www.sciencemag.org/cgi/doi/10.1126/science.1129161.
  7. Leonard, Anne S.; Papaj, Daniel R. (2011-12). "‘X’ marks the spot: The possible benefits of nectar guides to bees and plants: Nectar guides and bumblebee foraging" (yn en). Functional Ecology 25 (6): 1293–1301. doi:10.1111/j.1365-2435.2011.01885.x. http://doi.wiley.com/10.1111/j.1365-2435.2011.01885.x.
  8. Shang, Yongjin; Venail, Julien; Mackay, Steve; Bailey, Paul C.; Schwinn, Kathy E.; Jameson, Paula E.; Martin, Cathie R.; Davies, Kevin M. (2011-1). "The molecular basis for venation patterning of pigmentation and its effect on pollinator attraction in flowers of Antirrhinum" (yn en). New Phytologist 189 (2): 602–615. doi:10.1111/j.1469-8137.2010.03498.x. http://doi.wiley.com/10.1111/j.1469-8137.2010.03498.x.
  9. Primack, Richard B (1982). "Ultraviolet patterns in flowers, or flowers as viewed by insects". Arnoldia 42 (3): 139-146. https://www.jstor.org/stable/42955058.
  10. Moyroud, Edwige; Wenzel, Tobias; Middleton, Rox; Rudall, Paula J.; Banks, Hannah; Reed, Alison; Mellers, Greg; Killoran, Patrick et al. (2017-10-18). "Disorder in convergent floral nanostructures enhances signalling to bees". Nature 550 (7677): 469–474. doi:10.1038/nature24285. ISSN 0028-0836. http://www.nature.com/doifinder/10.1038/nature24285.
  11. Coen, Enrico S.; Meyerowitz, Elliot M. (1991-9). "The war of the whorls: genetic interactions controlling flower development" (yn en). Nature 353 (6339): 31–37. doi:10.1038/353031a0. ISSN 0028-0836. http://www.nature.com/articles/353031a0.