Pentre Maelor
| Math | pentref |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Bwrdeistref Sirol Wrecsam |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.033578°N 2.935621°W |
| Gwleidyddiaeth | |
![]() | |
Pentref yng nghymuned Abenbury, Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ydy Pentre Maelor. Mae'r rhan fwyaf o boblogaeth y gymuned yn byw yn y pentref.[1] Saif i'r de-ddwyrain o ddinas Wrecsam, yn agos i ystad ddiwydiannol y ddinas. Mae Afon Clywedog yn llifo ychydig i'r de o'r pentref.
Cafodd Pentre Maelor ei sefydlu ym 1947 fel ystad dai er mwyn darparu llety i weithwyr o ffatrïoedd yn yr ardal. Mae'r pentref wedi cadw ei cynllun gwreiddiol, sy'n cynnwys clo canolog petryalog ac 'adenydd' cysylltiedig o dai, gyda pob un ohonyn yn cael ei hadeiladu o gwmpas gofod gwyrdd.[2]
Roedd yr ardal leol yn cael ei adnabod yn wreiddiol fel 'Pilgrim's Place' oherwydd ei defnydd fel lle claddedigaeth ar gyfer anghydffurfwyr.[1] 'Pilgrim Way' yw enw un o strydedd yr ystad.
Mae 'Maelor' yn enw'r pentref yn cyfeirio at enw hanesyddol yr ardal sydd bellach ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, adeiladwyd ffatri a oedd yn cynhyrchu cordit ar gyfer y rhyfel ar ddarpar safle'r pentref.[1]
Yn 2017 adeiladwyd Carchar Berwyn nid nepell o Bentre Maelor, ar safle hen ffatri.
Cofrestrwyd yr ystad yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru gyda'rhif NPRN 409234.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Pentre Maelor - A Brief History - Abenbury Community Council". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-01-29. Cyrchwyd 2022-05-17.
- ↑ 2.0 2.1 "Pente Maelor Housing Estate, Wrexham - Coflein".
Dinas
Wrecsam
Tref
Y Waun
Pentrefi
Acrefair · Bangor-is-y-coed · Y Bers · Bronington · Brymbo · Brynhyfryd · Bwlchgwyn · Caego · Cefn Mawr · Coedpoeth · Erbistog · Froncysyllte · Garth · Glanrafon · Glynceiriog · Gresffordd · Gwersyllt · Hanmer · Holt · Llai · Llanarmon Dyffryn Ceiriog · Llannerch Banna · Llan-y-pwll · Llechrydau · Llys Bedydd · Marchwiail · Marford · Y Mwynglawdd · Yr Orsedd · Owrtyn · Y Pandy · Pentre Bychan · Pentredŵr · Pen-y-bryn · Pen-y-cae · Ponciau · Pontfadog · Rhiwabon · Rhos-ddu · Rhosllannerchrugog · Rhostyllen · Rhosymedre · Talwrn Green · Trefor · Tregeiriog · Tre Ioan · Wrddymbre
