Pendil Foucault

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Animeiddiad o bendil Foucault ar hemisffêr y gogledd, gyda chylchdro'r Ddaear wedi'i gyflymu yn fawr. Mae'r llinell werdd yn dangos llwybr bob y pendil ar y llawr. Dylai'r wifren fod mor hir â phosibl - mae'n gyffredin iddi fod yn 12-30 medr (39-98 troedfedd) o hyd.[1]

Dyfais syml a luniwyd er mwyn dangos cylchdro'r Ddaear yw pendil Foucault (Saesneg ynganiad: /fˈk / foo-KOH; ynganiad Ffrangeg: ​ [fuˈko]). Mae wedi'i enwi ar ôl y ffisegydd Ffrengig Léon Foucault. Cafodd y pendil ei gyflwyno yn 1851 a hon oedd yr arbrawf gyntaf i roi tystiolaeth syml, uniongyrchol o gylchdro'r Ddaear. Heddiw, mae pendiliau Foucault yn nodwedd boblogaidd mewn amgueddfeydd gwyddoniaeth a phrifysgolion.[2]

Cafodd pendil Foucault ei arddangos yn gyhoeddus am y tro cyntaf ym Meridian Arsyllfa Paris yn Chwefror 1851. Ychydig wythnosau yn ddiweddarach, gwnaeth Foucault ei bendil enwocaf pan gafodd bob (neu belen) blwm wedi'i chotio â phres ac yn pwyso 28 cilogram ei hongian ar weiren 67 medr o hyd yng nghromen y Panthéon ym Mharis. Roedd plân sigliad y pendil yn cylchdroi gyda'r cloc yn fras 11.3° yr awr, gan wneud cylch llawn mewn tua 31.8 hours. Cafodd y bob gwreiddiol a ddefnyddiwyd yn y Panthéon yn 1851 ei symud i 'r Conservatoire des Arts et Métiers ym Mharis yn 1855. Cafodd ail osodiad tros dro ei wneud ar gyfer dathliad 50 mlynedd yn 1902.[3]

Tra oedd yr amgueddfa yn cael ei hailadeiladu yn y 1990au, cafodd y pendil gwreiddiol ei arddangos am gyfnod yn y Panthéon (1995), a'i ddychwelyd wedyn i Musée des Arts et Métiers cyn iddi ailagor yn 2000.[4] Ar Ebrill 6, 2010, torrodd y wifren oedd yn dal y bob yn Musée des Arts et Métiers ac achosi difrod parhaol i'r pendil a llawr marmor yr amgueddfa.[5][6]

Mae copi union o'r pendil gwreiddiol wedi bod yn gweithio o dan gromen y Panthéon ym Mharis ers 1995.[7] Mae pendil i'w gael ym mhencadlys y Cenhedloedd Unedig yn Ninas Efrog Newydd, ac mae'r mwyaf yng Nghanolfan Confensiwn Oregon.[8][9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Foucault Pendulum". Smithsonian Encyclopedia. http://www.si.edu/Encyclopedia_SI/nmah/pendulum.htm.
  2. Oprea, John (1995). "Geometry and the Foucault Pendulum". Amer. Math. Monthly 102 (6): 515–522. doi:10.2307/2974765. JSTOR 2974765. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-02. http://www.maa.org/programs/maa-awards/writing-awards/geometry-and-the-foucault-pendulum.
  3. "The Pendulum of Foucault of the Panthéon. Ceremony of inauguration by M. Chaumié, minister of the state education, burnt the wire of balancing, to start the pendulum. 1902". Paris en images. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2014-08-21. https://web.archive.org/web/20140821171755/http://www.parisenimages.fr/fr/galerie-collections/9232-13-pendule-foucault-du-pantheon-ceremonie-dinauguration-m-chaumie-ministre-linstruction-publique-brulant-fil-retenue-mettre-marche-pendule-1902.
  4. Kissell, Joe (November 8, 2004). "Foucault's Pendulum: Low-tech proof of Earth's rotation". Interesting thing of the day. Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 12, 2012. http://itotd.com/articles/362/foucaults-pendulum/. Adalwyd March 21, 2012.
  5. Thiolay, Boris (April 28, 2010). "Le pendule de Foucault perd la boule" (yn fr). L'Express. Archifwyd o'r gwreiddiol ar July 10, 2010. http://www.lexpress.fr/actualite/sciences/le-pendule-de-foucault-perd-la-boule_888228.html.
  6. "Foucault's pendulum is sent crashing to Earth". Times Higher Education. 13 May 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 March 2012. http://www.timeshighereducation.co.uk/story.asp?storycode=411529. Adalwyd March 21, 2012.
  7. "Foucault's Pendulum and the Paris Pantheon". Atlas Obscura. Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 12, 2018. https://www.atlasobscura.com/places/pantheon-paris. Adalwyd January 12, 2018.
  8. "Kristin Jones - Andrew Ginzel". http://jonesginzel.com/project/principia/. Adalwyd 5 May 2018.
  9. "LTW Automation Products". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 April 2016. http://ltwautomation.net/casestudies.html#Pendulum. Adalwyd 5 May 2018.