Pegi Lloyd-Williams

Oddi ar Wicipedia
Pegi Lloyd-Williams
Ganwyd1923 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Arweinydd cymunedol ac awdur o Wynedd yw Pegi Lloyd-Williams (ganwyd 1923).[1]

O Gwm Cynon y daw Pegi Lloyd-Williams yn wreiddiol, ond fe'i magwyd yn bennaf ym Mlaenau Ffestiniog ac yno y mae wedi ymgartrefu, er iddi hefyd deithio llawer.

Cyn ymddeol bu'n gweithio ym maes peirianneg am ddeugain mlynedd a mwy. Mae'n weithgar iawn yn ei chymuned leol ac wedi gwasanaethu ar sawl corff cyhoeddus, gan gynnwys pwyllgor y Priordy Urdd Sant Ioan yng Nghaerdydd ac fel llywydd Merched y Wawr Sir Feirionnydd.

Hi yw awdur Hen Glochyddion Cymru (2011), llyfr sy'n mynd ar drywydd hanes clochyddion Cymru.[2]

Gweler Hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Pegi Lloyd Williams, Lleisiau o Lawr y Ffatri. Casgliad y Werin, Cymru (25 Chwefror 2014).
  2. "www.gwales.com - 9781847713209, Hen Glochyddion Cymru". www.gwales.com. Cyrchwyd 2020-03-02.


Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Pegi Lloyd-Williams ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.

Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.