Paul Dehn
Gwedd
| Paul Dehn | |
|---|---|
| Ganwyd | Paul Edward Dehn 5 Tachwedd 1912 Manceinion |
| Bu farw | 30 Medi 1976 Chelsea |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, libretydd, actor ffilm, sgriptiwr ffilm |
| Gwobr/au | Academy Award for Best Story, Gwobr Edgar, BAFTA Award for Best British Screenplay |
Sgriptiwr o Loegr oedd Paul Dehn (5 Tachwedd 1912 – 30 Medi 1976).
Bywyd a gwaith
[golygu | golygu cod]Ganwyd Dehn ym Manceinion, Lloegr. Mynychodd Brifysgol Rhydychen lle cyfrannodd adolygiadau ffilmiau wythnosol i'r papur newydd i îs-raddedigion. Dechreuodd ei yrfa ym myd ffilm ym 1936 fel adolygwr ffilmiau i nifer o bapurau newydd Llundain. Adroddodd y ffilm Waters of Time ym 1951 ac yn hwyrach ysgrifennodd ddramâu, operettas a sioeau cerdd ar gyfer y llwyfan. Gweithiodd ar lawer o sgriptiau ffilmiau, gan gynnwys Moulin Rouge (1952), The Innocents (1961), Goldfinger (1964) a The Spy Who Came in from the Cold (ffilm) (1965) .