Neidio i'r cynnwys

Paul Crooks

Oddi ar Wicipedia

Yr oedd Paul Crooks (12 Hydref 19665 Gorffennaf 2019) yn chwaraewr bêl-droed o Lan Ffestiniog.

Fe'i ganwyd yn Durham a chafodd ei fagu yn Llan Ffestiniog. Ar ôl gadael Ysgol y Moelwyn, aeth i dîm Bolton Wanderers fel prentis. Cafodd yrfa'n chwarae dros Stoke City, Tref Caernarfon, Carlisle United, Y Rhyl[1], Dinas Bangor, Blaenau Ffestiniog, a thîm yn y Ffindir.[2]

Yn 1987, cafodd ei ddewis i fod yn rhan o garfan tîm pêl-droed Cymru a derbyniodd gap.

Bu farw yn Ysbyty Alltwen, yn Nhremadog, yn 52 mlwydd oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Matthews, Tony (1994). The Encyclopaedia of Stoke City (yn Saesneg). Lion Press. ISBN 0952415100.
  2. "Tributes paid to former professional footballer". Cambrian News (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-06-03. Cyrchwyd 9 Medi 2019.