Patricia Bredin

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Patricia Bredin
Ganwyd1934 (84–85 oed)
Hull, Lloegr
Yn enwog amCynrychiolydd cyntaf y DU yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision
GalwedigaethCantores

Cantores yw Patricia Bredin (ganed 1934 yn Hull, Lloegr). Hi oedd cynrychiolydd cyntaf y Deyrnas Unedig yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 1957. Cynhaliwyd y gystadleuaeth yn Frankfurt, yr Almaen a daeth yn seithfed allan o ddeg cystadleuydd gwahanol. Enw ei chân oedd "All", a dyma oedd y gân gyntaf erioed i gael ei chanu yn Saesneg yn yr Gystadleuaeth Cân Eurovision. Yn ôl "The Eurovision Song Contest - The Official History" gan John Kennedy O'Connor, ei pherfformiad hi oedd y perfformiad byrraf erioed, yn para 1:52 yn unig.[1]

Priododd y canwr Ivor Emmanuel yn 1964, ond ysgarodd y ddau yn 1966.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. The Eurovision Song Contest - The Official History, John Kennedy O'Connor. Carlton Books, UK, 2007. ISBN 978-1-84442-994-3