Neidio i'r cynnwys

Partneriaeth Masnach a Buddsoddiad TrawsIwerydd

Oddi ar Wicipedia
Yr Undeb Ewropeaidd (gwyrdd) a'r Unol Daleithiau America (oren) ar fap o'r byd.

Cytundeb a fwriedir rhwng yr Undeb Ewropeaidd ac Unol Daleithiau America yw TTIP neu Partneriaeth Masnachu a Buddsoddi Trawsiwerydd (Saesneg: Transatlantic Trade and Investment Partnership. Mae'r rheiny sydd y tu ôl i'r cytundeb yn hawlio y gwnaiff wella'r hinsawdd diwydiannol a masnachol ar bob ochr,[1] ond mynn eraill y gwnaiff gynyddu pwerau corfforaethau mawr ar draul pobl gyffredin a hawliau gwledydd bychain i reoli eu hunain.[2]

Barn UDA yw fod y cytundeb hwn yn dilyn esiampl cytundeb TTIP (Traws-Gefnfor Tawel, neu Trans-Pacific Partnership.[3] Yn Ionawr 2015 cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd fras olwg dros y cytundeb.[4]

Y bwriad gwreiddiol oedd arwyddo'r cytundeb cyn diwedd 2014,[5][6] ond newidiwyd y dyddiad hwn i rywbryd yn ystod 2015.

Yr ymgyrch yn erbyn

[golygu | golygu cod]

Eiddo deallusol

[golygu | golygu cod]

Ym Mawrth 2013 daeth nifer o ymgyrchwyr at ei gilydd gan gyhoeddi datganiad ar y cyd[7] a oedd yn galw ar y partneriaid negydu (UDA a'r UE) i drafod y cytundeb yng Nghyngres yr Unol Daleithiau a Senedd Ewrop yn ogystal ag yn llywodraethau'r gwledydd unigol a fforymau agored eraill yn hytrach nag yn guddiedig rhwng drysau clo. Argymhellwyd na ddylai eiddo deallusol fod yn rhan o'r cytundeb hwn.

Sofraniaeth

[golygu | golygu cod]

Mae ISDS (Investor-state dispute settlement) yn offeryn cyfreithiol sy'n caniatáu buddsoddwr i ddod ag achos yn erbyn gwladwriaeth ble sefydlwyd (neu leolwyd) y buddsoddiad, ac sy'n analluogi gwladwriaeth y buddsoddwr i wneud affliw o ddim i'w hatal.[8] Yn Rhagfyr 2013 daeth dros 200 o gyrff amgylcheddol, undebau llafur ac eraill at ei gilydd a chyhoeddwyd llythyr agored yn galw am gladdu'r ISDS a'i hepgor o unrhyw drafodaethau pellach. Mynegwyd y pryder mai 'stryd unffordd' oedd yr ISDS: "...a one-way street by which corporations can challenge government policies, but neither governments nor individuals are granted any comparable rights to hold corporations accountable".[9][10]

Mynegwyd fod posib i'r cytundeb masnachu gael ei ddefnyddio i bwrpas amgenach, ac y gellid ei gamddehongli mewn modd dichellgar, yn enwedig y cymal sy'n amddiffyn buddsoddwr ar drael gwladwriaeth fechan.[11][12]

Yn Rhagfyr 2013 rhybuddiodd Martti Koskenniemi, Athro prifysgol ym Mhrifysgol Helsinki fod y cynllun yn peryglu sofraniaeth y gwladwriaethau sy'n ei arwyddo. Rhagwelai y gallai cnewyllyn bychan o gyfreithwyr (ee yn UDA) gamddefnyddio eu grym gan erlyn cwmni un o'r gwledydd Ewropeaidd ar eu telerau nhw (yr UDA), gan hepgor deddfau lleol y wlad (ee yr Eidal neu Gymru).[13]

Y blaid cyntaf yng Nghymru i wyntyllu'r cytundeb yma oedd Plaid Cymru pan basiwyd polisi ganddynt yn eu cynhadledd yn 2004, a nododd 'Gallai’r gwasanaethau cyhoeddus, cynnyrch bwyd o ansawdd uchel, diogelu cwsmeriaid a safonau lles gael eu dal mewn ras i’r gwaelod. Byddau’r setliad Anghydfod Buddsoddwr-Wladwriaeth (ISDS) yn caniatáu i gwmnïau i erlyn llywodraethau sydd yn mynd yn groes i'r cytundeb. Gallai hyn olygu mwy o breifateiddio a llai o bŵer i lywodraethau. Geilw’r Gynhadledd ar yr Undeb Ewropeaidd i atal yr holl drafodaethau, i gyhoeddi eu mandad trafod ac i ganiatáu archwiliad priodol o'r cytundeb gan Senedd Ewrop, Seneddau Cenedlaethol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Dyma'r unig ffordd y gallwn asesu a yw'r gytundeb hon yn wirioneddol er budd cenedlaethol Cymru.'[14]

Pasiodd Cyngor Sir Gwynedd hefyd yn ei erbyn, yn 2014, gan fynegi: ‘Mae Cyngor Gwynedd yn datgan gwrthwynebiad llwyr i Bartneriaeth Fasnach a Buddsoddiad Trawsiwerydd: (TTIP: Transatlantic Trade and Investment Partnership). Cytundeb masnachu rhwng yr Unol Daleithiau ac Ewrop yw TTIP, sy’n cael eu trafod y tu ôl i ddrysau caeedig ac yn annemocrataidd. Mae TTIP yn ceisio lleihau rhwystrau rheoleiddiol i fusnesau mawr - pethau fel cyfraith diogelwch bwyd ac amgylcheddol, rheoliadau bancio a grym cenhedloedd unigol. Mae gwasanaethau fel y GIG mewn peryg’ - mae TTIP yn fandad i gwmnïau preifat gymryd gwasanaethau drosodd. Ar hyn o bryd, mae’r trafodaethau yn dal i gynnwys y GIG. Mae’r trafodaethau yn peryglu democratiaeth gan y bydd hawl gan gwmnïau preifat erlyn llywodraethau os yw polisïau’r llywodraethau hynny yn achosi colledion mewn elw. Mandad i gwmnïau mawr i gymryd yr awenau yw hwn, yn hytrach na’r system ddemocrataidd, etholedig fel sydd gennym ar hyn o bryd.

Yn ôl Gareth Clubb a Sam Lowe, Ymgyrchwyr Amgylcheddol: 'Mae’r UE wedi ei gwneud hi’n glir taw un o brif amcanion allweddol y negodiadau TTIP yw i wthio’r UDA i ostwng neu ddiddymu’r cyfyngiadau presennol ar allforio olew crai a nwy siâl. Mae’n edrych yn debygol y gallai cynnydd yn y galw gan yr UE arwain at ehangu ffracio yn yr UDA a hwyluso allforion olew o dywodydd tar, a gloddiwyd yng Nghanada ac a burwyd / cludwyd drwy’r UDA i’r UE.'

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
  • TAFTA: Transatlantic Free Trade Area - Ardal Masnachu Rhydd Trawsiwerydd

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "This EU-US trade deal is no 'assault on democracy'", Ken Clarke, The Guardian, 11 Tachwedd 2013
  2. This transatlantic trade deal is a full-frontal assault on democracy, George Monbiot, The Guardian, 4 Tachwedd 2013
  3. Transatlantic Interests In Asia, Russel, Daniel R., United States Department of State, 13 Ionawr 2014
  4. www.trade.ec.europa.eu adalwyd 7 Ebrill 2015
  5. Emmott, Robin (2013-02-27). "EU trade chief hopes to clinch U.S. trade deal by late 2014 | Reuters". Uk.reuters.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-24. Cyrchwyd 2014-02-21.
  6. "BBC News - EU 'growth boost from US free-trade deal'". Bbc.co.uk. 2013-03-03. Cyrchwyd 2014-02-21.
  7. "IP out of TAFTA". citizen.org. Cyrchwyd 18 Mawrth 2013.
  8. Senedd Ewrop (3 Hydref 2013). "Factsheet on Investor-State Dispute Settlement" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-12-16. Cyrchwyd 2014-02-21.
  9. Stangler, Cole (2013-12-30). "The Next Corporate-Friendly Trade Pact". In These Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-25. Cyrchwyd 2014-02-21.
  10. "Letter" (PDF). Action.sierraclub.org. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2014-02-24. Cyrchwyd 2014-02-21.
  11. Jones, Owen (14 Medi 2014). "The TTIP deal hands British sovereignty to multinationals". The Guardian. Guardian Media. Cyrchwyd 5 Tachwedd 2014.
  12. Schiessl, Michaela (23 January 2014). "Corporation Carte Blanche: Will US-EU Trade Become Too Free?". Spiegel International. Spiegel Online. Cyrchwyd 5 Tachwedd 2014.
  13. Konttinen, Jussi (15 Rhagfyr 2013). "Professori: Suomen valta säätää lakeja voi vaarantua". Helsingin Sanomat (yn Finnish). Sanoma Oyj. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-09-24. Cyrchwyd 16 Rhagfyr 2013.CS1 maint: unrecognized language (link)
  14. TTIP & Chymru gol: Jill Evans ASE; Archifwyd 2016-04-12 yn y Peiriant Wayback adalwyd 6 Ionawr 2015