Parlys Bell

Oddi ar Wicipedia
Parlys Bell
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd, symptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathparlys gwynebol, palsy, clefyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Math o barlys wynebol yw Parlys Bell ac y mae'n arwain at anallu i reoli cyhyrau'r wyneb, fel arfer ar un ochr. Gall symptomau amrywio o rai cymedrol i ddifrifol. Medrant gynnwys aflonyddwch yn y cyhyrau, gwendid cyffredinol wynebol, neu ddiffyg gallu llwyr i symud un ochr, neu mewn achosion prin, yr wyneb yn ei gyfanrwydd. Mae symptomau eraill yn cynnwys datblygu amrannau llipa, newid yn y synhwyrau blasu, poen o gwmpas y glust a sensitifrwydd cynyddol i sain. Fel arfer datblygir symptomau dros gyfnod o 48 awr.[1]

Nid yw'r nodweddion sy'n achosi parlys Bell yn eglur. Mae'r ffactorau risg yn cynnwys clefyd y siwgwr ynghyd â heintiau diweddar ynghylch yr uwch lwybr anadlol. Deillia o gamweithrediad yn y nerf greuanol VII (y nerf wynebol). Y gred gyffredinol yw yr achosir gan haint feirol sy'n arwain at chwyddo. Gwneir diagnosis yn seiliedig ar ymddangosiad person ynghyd â phroses o ddileu achosion eraill posibl. Gall gyflyrau eraill achosi gwendid wynebol, er enghraifft tiwmor yr ymennydd, strôc, syndrom Ramsay Hunt a chlefyd Lyme.

Fel arfer y mae'r cyflwr yn gwella ei hun a cheir y rhan fwyaf o ddioddefwyr yn dychwelyd i'w galluoedd wynebol naturiol, neu'n agos atynt. Darganfuwyd bod corticosteroidau yn medru gwella canlyniadau, y mae meddyginiaethau gwrthfirysol yn rhannol fuddiol hefyd.[2] Dylai'r llygad gael ei ddiogelu rhag sychder, a gellir gwneud hynny drwy ddefnyddion glwt llygad neu ddiferion llygad. Yn gyffredinol, ni argymhellir llawdriniaeth. Gellir adnabod arwyddion o welliant ymhen 14 diwrnod, ond cymerir oddeutu chwe mis i sicrhau gwellhad llawn. Efallai na fydd rhai dioddefwyr yn gwella'n llwyr ac mae'n bosib i symptomau ailymddangos mewn rhai achosion.

Achosir y rhan fwyaf o gyflyrau parlys wynebol nerfol un ochrog gan Parlys Bell (70%).[3] Effeithia ar 1 i 4 ym mhob 10,000 o bobl y flwyddyn.[4] Mae oddeutu 1.5% o'r boblogaeth yn cael eu heffeithio gan y cyflwr ar ryw adeg yn eu bywyd.[5] Caiff ei ganfod yn bennaf mewn pobl rhwng 15 a 60 oed. Mae'r un mor gyffredin ymysg dynion a menywod. Fe'i henwyd ar ôl y llawfeddyg Albanaidd, Charles Bell (1774-1842), a gysylltodd y cyflwr am y tro cyntaf gyda'r nerf wynebol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Bell's Palsy Fact Sheet". NINDS. February 5, 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 April 2011. Cyrchwyd 8 August 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. Madhok, VB; Gagyor, I; Daly, F; Somasundara, D; Sullivan, M; Gammie, F; Sullivan, F (18 July 2016). "Corticosteroids for Bell's palsy (idiopathic facial paralysis).". Cochrane Database of Systematic Reviews 7: CD001942. doi:10.1002/14651858.CD001942.pub5. PMID 27428352.
  3. Dickson, Gretchen (2014). Primary Care ENT, An Issue of Primary Care: Clinics in Office Practice, (yn Saesneg). Elsevier Health Sciences. t. 138. ISBN 9780323287173. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-20. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. Fuller, G; Morgan, C (31 March 2016). "Bell's palsy syndrome: mimics and chameleons.". Practical Neurology 16: 439–444. doi:10.1136/practneurol-2016-001383. PMID 27034243.
  5. Grewal, D. S. (2014). Atlas of Surgery of the Facial Nerve: An Otolaryngologist's Perspective (yn Saesneg). Jaypee Brothers Publishers. t. 46. ISBN 9789350905807. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-20. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)