Papurau Panama

Oddi ar Wicipedia
Gwledydd lle ceir gwleidyddion, swyddogion cyrff cyhoeddus ac eraill a gysylltir gyda Phapurau Panama, a ryddhawyd 3 Ebrill 2016

Casgliad o 11.5 miliwn o ddogfennau cyfrinachol sy'n cynnwys gwbodaeth manwl am dros 214,000 o gwmniau hafan treth yw papurau Panama. Cofrestrwyd y cwmniau gan gwmni gwasanaethau Mossack Fonseca, o Banama, ac roedd y manylion yn cynnwys enwau cyfranddalwyr a chyfarwyddwyr y cwmniau.

Datguddiodd y papurau sut mae pobl gyfoethog yn 'cuddio' arian rhag y cyhoedd. Pan gyhoeddwyd y papurau ar y we, roedd pum pennaeth gwladwriaeth yn cael ei enwi, sef yr Ariannin, Gwlad yr Iâ, Sawdi Arabia, Wcrain a'r Yr Emiradau Arabaidd Unedig yn ogystal â swyddogion llywodraethau gwledydd eraill, perthnasau a chyfeillion agos i bennaethiaid dros 40 o wledydd eraill. Roedd dros hanner y cwmniau a enwyd ar y rhestr wedi'u cartrefu ar Ynysoedd y Wyryf (British Virgin Islands) ac roedd mwy o fanciau, swyddfeydd cyfreithwyr a'r 'dyn canol' yn gysylltiedig gyda Hong Kong nac unman arall.[1]

Er nad yw'r defnydd o fusnesau alltraeth ddim yn anghyfreithiol cyhoeddodd rhai ymchwilwyr fod rhai o'r cregyn-gwmniau o bosib wedi cael eu defnyddio i bwrpas anghyfreithiol, gan gynnwys twyll ariannol, gwyngalchu arian, cyffuriau ac osgoi treth.[2]

Rhyddhaodd canwr cloch dienw, y dogfennau i bapur newydd Almaenig (Süddeutsche Zeitung), dan lysenw "John Doe" bob yn swp gan ddechrau ar y gwaith o'u rhyddhau yn nechrau 2015.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "David Cameron urged to act on Panama Papers as UK named 'at heart of super-rich tax-avoidance network'". The Independent (yn Saesneg). 5 Ebrill 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-04. Cyrchwyd 7 Ebrill 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. "Panama Papers: How Nuix Helped Uncover the Facts". Nuix. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-08. Cyrchwyd 6 Ebrill 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)