Canu cloch

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Efallai eich bod yn chwilio am cloch, clochyddiaeth neu campanoleg.

Y weithred o ddatgelu'n gyhoeddus gamymddygiad o fewn sefydliad yw canu cloch (Saesneg: whistleblowing)[1]. Gall y camymddygiad fod yn drosedd, torri rheoliadau, twyll, anwybyddu safonau iechyd a diogelwch, llygredigaeth ac yn y blaen.

Yn aml mae unigolion sy'n canu cloch yn wynebu diswyddiad, erlyniad neu gosbau eraill. Yn y Deyrnas Unedig mae Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 yn darparu amddiffyniad dan y gyfraith i unigolion sy'n datgelu gwybodaeth er mwyn amlygu camymddygiad.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?canaf
  2. "Global Integrity Report". Report.globalintegrity.org. Cyrchwyd 2012-07-08.
People together.svg Eginyn erthygl sydd uchod am sefydliad neu astudiaethau sefydliadau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.