Papillon (ffilm)
Jump to navigation
Jump to search
Ffilm Saesneg yn seiliedig ar hunangofiant y carcharor Ffrengig Henri Charriére yw Papillon. Saethwyd y ffilm ym 1973 a'i chyfarwyddo gan Franklin J. Schaffner. Roedd Steve McQueen yn serenu fel Henri Charriére (Papillion) a Dustin Hoffman fel Louis Dega. Costiodd y ffilm $12 miliwn i'w chreu oherwydd y lleoliadau ecsotig, ond derbyniwyd dwywaith hynny yn ystod y flwyddyn gyntaf o'i dangos.[1]