Pantelleria
| Math | cymuned |
|---|---|
| Prifddinas | Pantelleria |
| Poblogaeth | 7,352 |
| Nawddsant | Fortunatus of Casei |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 84.53 km² |
| Uwch y môr | 5 metr |
| Gerllaw | Môr y Canoldir |
| Cyfesurynnau | 36.7875°N 11.9925°E |
| Cod post | 91017 |
| Hyd | 13.7 cilometr |
![]() | |
Ynys Eidalaidd ym Môr y Canoldir yw Pantelleria. Fe'i lleolir yn Nghulfor Sisili, 100 km (62 milltir) i'r de-orllewin o Sisili a 60 km (37 milltir) i'r dwyrain o arfordir Tiwnisia. Ar ddiwrnodau clir mae Tiwnisia i'w weld o'r ynys. Yn weinyddol, mae comune Pantelleria yn perthyn i dalaith Sisilaidd Trapani.
Mae gan yr ynys arwynebedd o 83 km² (32 milltir sgwâr). Mae'r copa uchaf, o'r enw Montagna Grande, yn cyrraedd 836 m (2,743 troedfedd) uwchben lefel y môr.
Mae'r ynys o ddarddiad folcanig. Digwyddodd y ffrwydrad olaf islaw lefel y môr yn 1891, ond heddiw gellir gweld ffenomenau sy'n gysylltiedig â gweithgaredd folcanig, fel ffynhonnau poeth a ffwmarolau. Mae'r ynys yn ffrwythlon ond heb ddŵr ffres.
Ledled yr ynys ceir tai nodweddiadol – dammusi. Mae gan y rhain waliau trwchus o lafa, wedi'u gwyngalchu, gyda chiwpolâu bas, a dyfrgistiau ar gyfer casglu dŵr glaw prin.
Mae Pantelleria yn enwog am ei gwinoedd melys, Moscato di Pantelleria a Moscato Passito di Pantelleria, y ddau wedi'u gwneud o'r grawnwin Zibibbo lleol. Caprys sy'n gnwd pwysig arall.
Oriel
[golygu | golygu cod]- Ffurfiant folcanig ar hyd yr arfordir
- Tai nodweddiadol yr ynys – dammusi
- Gwinllannoedd wedi'u hamgylchynu gan waliau cerrig
- Terasau gyda llwyni caprys
