Pêl-droed rheolau Awstralaidd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Pêl-droed Awstralaidd)
Pêl-droed rheolau Awstralaidd
Enghraifft o'r canlynolmath o chwaraeon Edit this on Wikidata
Mathpêl-droed Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.afl.com.au/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Chwaraeon poblogaidd yn Awstralia yw pêl-droed rheolau Awstralaidd (Saesneg: Australian rules football). Mae e’n fath o bêl-droed a chwaraeir yn bennaf yn Victoria, De Awstralia, Gorllewin Awstralia a Tasmania. Mae'n boblogaidd yn iawn ymhlith cymunedau Awstraliaid brodorol hefyd.

Y gystadleuaeth pêl-droed Awstralaidd pwysicaf a mwyaf poblogaidd yw Cynghrair Pêl-droed Awstralaidd.

Hanes[golygu | golygu cod]

Cerflun Tom Wills (fel dyfarnwr) tu allan Maes Criced Melbourne

Dyfeisiwyd pêl-droed Awstralaidd gan Tom Wills ym Melbourne ym 1858, ar gyfer cricedwyr i gadw’n heini yn ystod y gaeaf. Chwaraewyd y gêm gyntaf ar 31 Gorffennaf 1858 yng Nghae Richmond, ger safle modern Maes Criced Melbourne.

Crewyd Clwb Pêl-droed Melbourne ar 7 Awst 1858, ac ysgrifennwyd rheolau swyddogol ym 1859.

Rheolau[golygu | golygu cod]

Maes pêl-droed Australaidd
Pêl pêl-droed Australaidd

Chwaraeir pêl-droed Australaidd ar faes chwarae hirgrwn rhwng ddau dîm, gyda deunaw chwaraewr yr un.

Rhaid i dimau gicio'r bêl drwy'r pedwar postyn gôl ar bob pen y maes chwarae. Rhoddir chwe "phwynt" am gicio'r bêl rhwng y ddau bostyn canolog, ac un "pwynt" am gicio'r bêl rhwng y pyst i'r dde a'r chwith.

Er enghraifft: Tîm A, 14.11.95 yn trechu Tîm B, 12.6.78. Ciciodd Tîm A bedair gôl ar ddeg (chwe phwynt yr un), ac un pwynt ar ddeg - (14 x 6) + 11 = 95. Ciciodd Tîm B ddeuddeg gôl (chwe phwynt yr un), a chwe phwynt - (12 x 6) + 6 = 78. Felly, Tîm A sy'n fuddugol.

Pêl-droed rheolau Awstraliaidd yng Nghymru[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]