Owen Holland (AS Môn 1584)
| Owen Holland | |
|---|---|
| Ganwyd | 16 g |
| Bu farw | 1601 |
| Galwedigaeth | gwleidydd |
| Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1584-85 Parliament |
Roedd Owen Holland (bu farw 1 Chwefror, 1601) o Blas Berw, Llanidan yn ŵr cyhoeddus ym Môn yn yr 16 ganrif.[1]
Roedd Holland yn unig fab ac etifedd i Edward Holland ac Elin merch Rowland Griffith, Plas Newydd. Priododd Elizabeth ferch Syr Richard Bulkeley AS Môn a dri achlysur rhwng 1549 a 1571); bu iddynt 8 Mab, gan gynnwys Thomas Holland AS Môn ym 1601.[2]
Yn ogystal â bod yn dirfeddiannwr ym Môn daeth Holland hefyd yn berchennog ar dir yn ardal Ysgeifiog lle dechreuodd datblygu'r diwydiant glo cynnar yn Sir y Fflint.
Bu Holland yn gwasanaethu fel Siedwr Môn ym 1574-1575 (swyddog cyfreithiol a oedd yn dyfarnu ar eiddo pobl bu farw heb etifeddion). Bu'n Ustus Heddwch o 1583 hyd ei farwolaeth; gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Môn ym 1584 ac Uchel Siryf y Sir ym 1590 a 1599.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895 [1] adalwyd 29 Rhagfyr 2015
- ↑ History of parliament on line HOLLAND, Owen (d.1601), of Plas Berw, Llanidan, Anglesey [2][dolen farw] adalwyd 29 Rhagfyr 2015
| Senedd Lloegr | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Lewis ab Owain ap Meurig |
Aelod Seneddol Ynys Môn 1584 |
Olynydd: Henry Bagenal |