Owain ap Hywel (Glywysing)
Owain ap Hywel | |
---|---|
Bu farw | 930 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | teyrn |
Tad | Hywel ap Rhys |
Plant | Cadwgan ab Owain, Morgan Hen ab Owain, Gruffydd ab Owain |
Roedd Owain ap Hywel (m. tua 930[1]) yn frenin Glywysing a Gwent yn ne-ddwyrain Cymru.
Bu tad Owain, Hywel, yn frenin Glywysing tan ei farwolaeth o gwmpas y flwyddyn 886. Er anrhydedd i fab Owain, Morgan Hen ab Owain, y daeth teyrnas unedig Glywysing a Gwent i'w hadnabod fel Morgannwg, ond dadleua T. Charles-Edwards ei bod yn debygol i'r ddwy deyrnas gael eu huno yn ystod teyrnasiad Owain.[2] Rhaid bod Owain neu ei frawd Arthfael wedi ennill rheolaeth o Went trwy goncwest neu etifeddiaeth gan eu cefndryd, a bod y deyrnas wedi'i huno yn dilyn marwolaeth Arthfael o gwmpas 916.
Cyfarfu Owain, ynghyd â Hywel Dda, a'r Brenin Æthelstan o Wessex ar ol i Æthelstan lwyddo i goncro Northumbria. Tua'r flwyddyn 927, gwnaeth Hywel ac yntau heddwch gydag thelstan wrth bont Eamont Bridge ger Penrith.[3][4][5] Mae'r beirdd yn disgrifio'r taliadau arian a nwyddau a wnaed i Æthelstan yn dilyn hynny[6] fel baich trwm ar y Cymry.
Yn dilyn marwolaeth Owain, rhannwyd y deyrnas rhwng ei feibion - Cadwgan, Morgan a Gruffydd - ond cafodd Morgan oes hir a llwyddodd i uno'r deyrnas unwaith eto, a rhoddwyd ei enw iddi.
Gwraig a phlant
[golygu | golygu cod]Gwraig Owain oedd Elen ferch Rhodri (g. tua 850). Ei feibion oedd:
- Cadwgan (brenin Gorllewin Glywysing, lladdwyd tua 950)[7]
- Morgan Hen (brenin Gwent yn wreiddiol, m. tua 974)
- Gruffydd (brenin Dwyrain Glywysing, lladdwyd tua 935)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ David Ford, Early British Kingdoms: "South Welsh Royal Pedigree: Kings of Gwent, Glywysing, Morgannwg, Ergyng, Garth Madrun & Early Kings of Dyfed". Adalwyd 20 Chwefror 2013.
- ↑ T. Charles-Edwards, Wales and the Britons, 350–1064 (Oxford University Press, 2012), t.495. Adalwyd 20 Chwefror 2013.
- ↑ Anglo-Saxon Chronicle (D text), entry for AD 926.
- ↑ Pauline Stafford (gol.), A Companion to the Early Middle Ages: Britain and Ireland c.500–1100, [1] (John Wiley & Sons, 2009), t. 343. Adalwyd 20 Chwefror 2013.
- ↑ David Moore, The Welsh Wars of Independence, c.1415– c.1415, (Tempus, 2005), t. 31.
- ↑ Glanmor Wiliams, Glamorgan County History, cyf. 2: Early Glamorgan: Pre-History and Early History (W. Lewis, 1984), t.352
- ↑ Mike Ashley, The Mammoth Book of British Kings and Queens (New York: Carroll & Graf Publishers, 1998). Adalwyd 20 Chwefror 2013.