Neidio i'r cynnwys

Ongl sgwâr

Oddi ar Wicipedia
Ceir 90 gradd mewn ongl sgwâr.

Mewn geometreg a thrigonometreg, ongl sgwâr (neu yn anaml: 'ongl dde') yw ongl gydag union 90 ° (gradd), sy'n cyfateb i chwarter tro. Os rhoddir pwynt dechreuol pelydryn ar linell syth, a'r onglau cyfagos yn hafal, yna ceir ongl sgwâr.[1][2] Gellir disgrifio gwrthrychau a ffurfiau sy'n cynnwys onglau sgwâr gyda'r ansoddair sgwâr-onglog.[3]

Diffiniad o 'ongl' yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru yw: Y gofod rhwng dwy linell neu ddau blân sy'n cyffwrdd; aroledd dwy linell a'i gilydd.

Ceir sawl cysyniad geometrig cysylltiedig ag ongl sgwâr, gan gynnwys llinellau perpendicwlar ac orthogonoledd.

Mewn gemotreg elfennol

[golygu | golygu cod]

Mae petryal yn bedair ochr â phedair onglau sgwâr. Mae gan sgwâr bedair onglau sgwâr, yn ogystal ag ochrau hyd cyfartal. Mae'r theorem Pythagorean yn nodi sut i benderfynu pryd mae triongl yn driongl cywir.

Symbolau

[golygu | golygu cod]
Triongl ongl sgwâr, gyda'r triongl yn cael ei nodi gan sgwâr.
Dull arall o ddynodi ongl sgwâr, ac sy'n boblogaidd mewn gwledydd fel yr Almaen, yw drwy ddefnyddio cromlin-ongl a dotyn bychan.

Mewn Unicode, y symbol ar gyfer ongl sgwâr yw Error using {{unichar}}: Input "221f" is not a hexadecimal value.. Ni ddylid ei gymysgu gyda'r symbol debyg, Error using {{unichar}}: Input "231e" is not a hexadecimal value.. Mae sawl symbol perthynol arall: Error using {{unichar}}: Input "22be" is not a hexadecimal value., Error using {{unichar}}: Input "299c" is not a hexadecimal value., a Error using {{unichar}}: Input "299d" is not a hexadecimal value..[4]

Mewn diagramau, dangosir yr ongl sgwâr drwy ddefnyddio sgwâr bychan, fel a welir yn y diagram ar y dde. Mewn rhai gwledydd Ewropeaidd, defnyddir dotyn bychan i'w ddangos.[5]

Trosi i unedau eraill

[golygu | golygu cod]

Gellir nodi ongl sgwâr mewn gwahanol unedau:

  • 1/4 tro
  • 90° (gradd)
  • π/2 radian
  • 100 grad (a elwir hefyd yn gradian, neu gon)
  • 8 pwynt
  • 6 awr (astronomeg)

Y rheol 3-4-5

[golygu | golygu cod]

Bu seiri, seiri maen a phensaeri'n defnyddio'r dull hwn am filoedd o flynyddoedd. Gelwir ef hefyd yn 'ddull Pythagoras (3, 4, 5)'. Yn aml, defnyddiwyd cortyn gyda sawl cwlwm ynddo i greu ongl sgwâr. Byddai tair uned mewn un ochr, union bedair yn yr ail ochor, sy'n creu yr hypotenws, sef y linell hiraf gyferbyn â'r ongl sgwâr, ac sy'n 5 uned o hyd. Y rheol sy'n sail i'r dull hwn (er na wyddai llawer o'r seiri hyn!) yw Theorem Pythagoras "Mae'r sgwâr hypotenws triongl ongl sgwâr yn hafal i swm sgwariau'r ddwy ochr gyfagos."

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Right Angle". Math Open Reference. Cyrchwyd 26 Ebrill 2017.
  2. Wentworth p. 11
  3. "sgwar-onglog" Geiriadur Prifysgol Cymru (GPC); adalwyd 13 Medi 2018.
  4. Unicode 5.2 Siart Siartiau codau nodau Gweithredwyr Mathemategol, Amrywiol symbolau Mathemategol-B
  5. Müller-Philipp, Susanne; Gorski, Hans-Joachim (2011). Leitfaden Geometrie [Handbook Geometry] (yn German). Springer. ISBN 9783834886163.CS1 maint: unrecognized language (link)